Yr Hogyn Pren yng Ngŵyl Agor Drysau

Mae bywyd yn gallu bod yn anodd pan ti wedi dy greu o froc môr...

O ddarn o bren y gwnaed o, o’i gorun moel i’w draed o…” 

Mae bywyd yn gallu bod yn anodd pan ti wedi dy greu o froc môr. Wrth i’r Hogyn Pren hudolus chwilio am ei galon, mae mam yn darganfod darn o gwch wedi’i olchi i’r lan. A fydd eu cyfarfod annisgwyl yn dod â gobaith newydd neu a fydd atgofion o’r gorffennol yn ei llethu?

Ar ôl swyno cynulleidfaoedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, mae’r antur hudolus yma i’r teulu i gyd yn cyfuno pypedwaith cywrain, stori afaelgar a cherddoriaeth arallfydol. Wedi’i greu gan Owain Gwynn (War Horse, Life of Pi), mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno stori ysbrydoledig am bŵer cysylltiad annisgwyl.

Yn ogystal â'r perfformiadau cyhoeddus a restrwyd isod, bydd Yr Hogyn Pren yn ymweld â'r ysgolion isod fel rhan o Ŵyl Agor Drysau:

  • Ysgol Gymraeg Aberystwyth
  • Ysgol Llanfarian

Yng Ngŵyl Agor Drysau

Addas i bob oed.
Yn cynnwys cyfeiriadau at galar a marwolaeth plentyn

Dyddiadau’r Daith

  • 12 Maw 2024
    9.30am
    Perfformiad byw
    Promenâd Aberystwyth (wrth ymyl y Bandstand)
  • 12 Maw 2024
    12.30pm
    Perfformiad byw
    Promenâd Aberystwyth (wrth ymyl y Bandstand)
  • 13 Maw 2024
    12.30pm
    Perfformiad byw
    Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Cast

Y Fam Rhian Blythe 

Pypedwr Owain Gwynn 

Pypedwr Fred Davis 

Pypedwr Chris Milford

Tîm Creadigol

Crewyd gan Owain Gwynn

Sgript Elidir Jones

Cyfarwyddwr Steffan Donnelly

Cyfarwyddwr Pypedau Owain Gwynn

Pypedau wedi eu cynllunio a’u creu gan Theatr Byd Bach 

Cerddoriaeth Lisa Jên Brown a Martin Hoyland

Gwisgoedd Luned Gwawr

Clodrestr

Delwedd a Dylunio Graffeg Frank Duffy