Parti Priodas

Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha yng Nghaffi Maes B

Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha, yng Nghaffi Maes B…

Ond pwy arall sy’ ar y rhestr westeion? Mae Lowri yn benderfynol o oroesi dydd priodas ei brawd. Ond gyda hwnnw ar drothwy pennod newydd cyffrous yn ei fywyd, ydi dyfodol Lowri a’r fferm deuluol ar fin cael ei chwalu’n rhacs? Mae Idris yn hiraethu am ei hen ffrind gorau ac yn dychwelyd i Lŷn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond a fydd cyfrinachau’r gorffennol yn difetha diwrnod pawb?

Ymunwch gyda ni ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd am wledd o ddrama gomedi gan Gruffudd Owen wedi’i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly. Bydd hwn yn barti i’w gofio!

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

Canllaw Oed: 16+

Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed, taniadau a goleuadau strôb

Ceir rhestr llawn o'r themâu all beri gofid yn y ddogfen hon.

Dyddiadau’r Daith

  • 07 Awst 2023
    17:00
    Perfformiad Byw
    Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
  • 08 Awst 2023
    17:00
    Perfformiad Byw
    Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
  • 09 Awst 2023
    17:00
    Perfformiad Byw
    Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
  • 10 Awst 2023
    17:00
    Perfformiad Byw
    Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Cast

Lowri (a chymeriadau eraill) Mared Llywelyn

Idris (a chymeriadau eraill) Mark Henry Davies

Tîm Creadigol

Dramodydd Gruffudd Owen

Cyfarwyddwr Steffan Donnelly

Dylunydd Set a Gwisgoedd Luned Gwawr

Cyfarwyddwr Symud Cêt Haf

Cyfansoddwr Sam Humphreys 

Clodrestr

Ffotograffi Prif Ddelwedd Aled Llywelyn

Dylunio Graffeg Kelly King Design