Prosiectau
Dewch i ddysgu mwy am y gwaith ry’n ni ei wneud y tu hwnt i’n cynhyrchiadau. Ry’n ni’n gweithio ar amrywiaeth o brosiectau sy’n cysylltu theatr a iechyd, yn darparu cyfloedd i fagu hyder a datblygu sgiliau, ac yn sicrhau cyfleoedd i unrhyw un gymryd rhan a mwynhau theatr yng Nghymru. Dyma’n prosiectau diweddaraf:
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Fel rhan o brosiect rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Ar y Dibyn
Mae prosiect Ar y Dibyn yn rhoi cyfle i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddibyniaeth – boed hynny’n bobl sy’n byw gyda dibyniaeth neu sy’n cefnogi pobl eraill gyda’u dibyniaeth – i ddod at ei gilydd a rhannu’r straeon hynny mewn ffyrdd creadigol.
-
Criw Creu '24
Mae Criw Creu yn ôl eto yn 2024!
Prosiectau’r gorffennol
-
Murlun Ysgol Bro Pedr Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd
-
Connect Up Mae Theatr Genedlaethol Cymru – ochr yn ochr â Galactig – yn falch iawn o fod yn bartner technegol ar brosiect Connect Up.
-
Clwb Theatr Cymru Prosiect ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Mentrau Iaith Cymru ddaeth â phlant Cymru ynghyd i fwynhau amrywiaeth o weithdai dros Zoom
-
Wythnos Prentisiaethau Cymru Cyfle i dynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd creadigol sydd ar gael, a’r gwerth maent yn ei roi i gyflogwyr a dysgwyr ar draws Cymru.
-
Academi Leeway Mae Cynyrchiadau Leeway mewn partneriaeth â Theatr Soar a Theatr Genedlaethol Cymru yn lansio Academi Leeway, sef academi theatr gerdd ar lawr gwlad i bobl ifanc 14 – 25 oed.
-
Cynllun Dramodwyr Ifanc Cynllun sy'n rhoi'r cyfle i sgwennwyr ifanc ddatblygu eu sgiliau trwy weithdai gyda dramodwyr ac awduron proffesiynnol.
-
Tremolo Drama bodlediad arobryn sy'n archwilio'r straeon personol y tu ol i brofion geneteg
-
Criw Creu Prosiect cenedlaethol yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i gael mynediad i'r celfyddydau, drwy greu gwaith gwreiddiol dan arweiniad artistiaid profiadol ac ysbrydoledig.
-
Criw Creu '23 Mae Criw Creu yn dychwelyd eto yn 2023! Prosiect creadigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw Criw Creu sy’n cael ei arwain gan Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru.
-
Pair Prosiect ddaeth ag artistiaid llawrydd y sector gelfyddydol ynghyd i gyd-greu, gyda chefnogaeth gan S4C.
-
Bwrsari Datblygu Syniad Cynllun oedd yn rhoi cyfle i artistiaid sy'n uniaethu â nodweddion penodol a'u tangynrychioliwyd yn ein gwaith, i datblygu syniad ar gyfer drama neu gynhyrchiad theatr newydd gyda chefnogaeth y cwmni.
-
Bwrsari Artist a Chymuned Cynigiwyd 5 bwrsari i artistiaid weithio’n greadigol gyda chymuned arbennig a rhoi cyfle i bobl yn y gymuned honno brofi effaith drawsnewidiol creadigrwydd ar eu bywydau.
-
Chwilio'r Chwedl Mae Theatr Gen yn falch iawn o fod yn rhan o Chwilio’r Chwedl, ar y cyd ag Eisteddfod yr Urdd.
-
Prosiect 40°C Mae Prosiect 40°C yn brosiect hirdymor ac uchelgeisiol gan Theatr Genedlaethol Cymru sy’n ymateb i’r foment dyngedfennol yma yn yr argyfwng hinsawdd.
-
Ha/Ha Ry'n ni a Theatr Clwyd yn chwilio am artistiaid mwyaf doniol Cymru i ddechrau prosiect newydd sbon.