• Drama bodlediad yw Tremolo wedi’i chynhyrchu gan Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg. Wedi’i hysgrifennu gan y dramodydd Lisa Parry, mae’r podlediad pwerus hwn yn rhoi mewnwelediad clir i’r cwestiwn a ddylid cael profion geneteg ai peidio, a sut mae un teulu’n ymdopi â’r diagnosis allai fod yn cuddio yn eu genynnau.

    Meddai Lisa Parry; “Mae teuluoedd ledled ein cymunedau’n gorfod gwneud penderfyniadau tebyg i’r rhai mae ‘Harri’, sef prif gymeriad y ddrama (sydd yn ei arddegau), a’i deulu, yn gorfod eu gwneud ond anaml iawn rydyn ni’n clywed amdanyn nhw. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Tremolo yn helpu teuluoedd sy’n ystyried opsiynau profion geneteg, ac yn gwneud y broses o ddeall y dewisiadau hyn yn fwy hygyrch i’r cyhoedd yn gyffredinol.”

    Wedi ei at gynulleidfaoedd  16+ oed, cyflwynir Tremolo trwy lygaid Harri, bachgen gofalgar yn ei arddegau. Fel llawer o bobl ifanc sydd newydd gwblhau eu harholiadau Lefel A, mae Harri’n edrych ymlaen yn llawn cyffro at y dyfodol: teithio Ewrop ar drên gyda’i ffrind, yna mynd i’r brifysgol i ddilyn ei freuddwyd o fod yn lawfeddyg-niwro. Ond, ar amrantiad, mae ei fyd cael ei droi ben i waered pan gaiff ei fam ddiagnosis o eFAD – Alzheimer cychwyn cynnar Teuluol. O ran geneteg, mae siawns 50% y gall ef a Gwenllian, ei chwaer iau, ddatblygu'r cyflwr yn y dyfodol.

Mae gwyddoniaeth a meddygaeth yn faes newydd i waith Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae wedi bod yn gyffrous i archwilio’r defnydd o bodlediadau i gyflwyno theatr i gynulleidfaoedd newydd, ifanc.

“Mae cynnig cynnwys creadigol perthnasol ar wahanol blatfformaun allweddol i’r Theatr Gen wrth inni symud ymlaen. Rydym yn awyddus i ddatblygu ein cynnig fel ei fod yn cynnwys nid yn unig theatr byw, ond hefyd gweithiau sydd â chyrhaeddiad ehangach ac sydd â gwaddol hirach trwy wneud defnydd o blatfformau digidol. Yn ogystal, mae Tremolo yn stori apelgar. Gyda’r cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae’n gyfle gwych i’r celfyddydau mynegianol gysylltu â gwyddoniaeth a thechnoleg, a gall athrawon fanteisio ar adnodd addysgol pwrpasol, dwyieithog a rhad ac am ddim, a grëwyd gan y Theatr Gen a Pharc Geneteg Cymru i gefnogi’r ddrama bodlediad hon yn yr ystafell ddosbarth.” Rhian Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru.

Recordiwyd Tremolo yn Hoot Studios a’r golygydd oedd Rhys Young.

Ar gael i wrando arno a’i lawrlwytho ar SpotifyiTunes, AM yn ogystal ag ar ein Casgliad Dysgu.