Mae datblygu sgiliau sgwennwyr ifanc yn bwysig iawn i ni yn Theatr Gen ac mae’n Cynllun Dramodwyr Ifanc wedi bod yn rhedeg ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru a S4C a BBC Studio ers dwy flynedd bellach.  

Eleni, ry’n ni’n falch iawn o’r cyfle i gydweithio â’r Urdd unwaith eto ar brosiect sy’n rhoi cyfle i rai o'n dramodwyr ifanc ysgrifennu a chyfansoddi sgriptiau newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023.  

Daethom â 6 dramodydd ifanc sydd â chysylltiadau gyda Sir Gâr ynghyd i dreulio cyfnod o 6 wythnos yn datblygu eu syniadau drwy fentora a chefnogaeth ysgrifennu gan y cyfarwyddwr Sarah Bickerton.  

Enwau’r dramodwyr yw:  

 

Hefin Robinson

Mirain Jones 

Del Evans

Mared Roberts 

Martha Ifan

Rhiannon Williams 

 

Mae’r sgriptiau gan y dramodwyr ifanc yn seiliedig ar chwedlau wedi’u i lleoli yn Sir Gâr ac yn addas i ddisgyblion ysgolion cynradd blwyddyn 5 a 6. Y nod yw bod plant cynradd y sir yn perfformio’r gwaith newydd yma ar faes Eisteddfod yr Urdd, dan gyfarwyddyd Carys Edwards a chriw creadigol, yn ogystal ag athrawon y sir.