• Mae Criw Creu yn dychwelyd eto yn 2023! Prosiect creadigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw Criw Creu sy’n cael ei arwain gan Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru.

    Eleni, ry’n ni’n falch iawn o weithio gyda grwpiau o ddwy ysgol yn Sir Gâr, sef Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Uwchradd Y Frenhines Elisabeth.  

    Bydd disgyblion o’r ddwy ysgol – o flwyddyn 7 i’r chweched dosbarth – yn ysgrifennu cerdd o dan arweiniad yr awdur Elinor Wyn Reynolds, cyn mwynhau sesiwn cyfansoddi gyda Dan Lawrence i greu'r gerddoriaeth. Yna bydd cyfle i‘r disgyblion baratoi’r gwaith i‘w arddangos ar ffurf fideo yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023.   

Cadwch lygaid mas ar y dudalen hon am luniau a fideos newydd o fewn yr wythnosau sy'n arwain lan at Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri!    

Mae Criw Creu yn brosiect arbennig iawn i ni. Cychwynodd y prosiect gyda Murlun Bro Pedr yn 2021, diolch i nawdd gan Western Power Distribution a Culture Step, drwy Celf a Busnes. Darllenwch y stori yma

Yn 2022, aeth y prosiect yn genedlaethol gyda'r artistiaid Casi Wyn (Bardd Plant Cymru), Sioned Medi Evans, a Sian Elin (ein Cydlynydd Cyfranogi) yn cydweithio gyda disgyblion mewn 4 ysgol ledled Cymru. Gallwch ddarllen mwy a gwylio fideos o’r prosiect fan hyn.  

Criw Creu '22

Yn 2022, roedd disgyblion pedair ysgol uwchradd yn rhan o’r prosiect, sef Ysgol Bro Pedr, Criw Hwb Ysgol Tryfan Bangor, disgyblion Sgiliau Bywyd Ysgol Penweddig Aberystwyth a chriw o Ysgol Plasmawr, Caerdydd.

Hwn oedd y tro cyntaf i nifer o’r disgyblion gael y cyfle i gydweithio gydag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol. 

Cliciwch isod i ddysgu mwy am y prosiect, a gweld ffrwyth llafur anhygoel y criw yma!