Cyfle i ddeuddeg o artistiaid sy’n weithwyr llawrydd celfyddydol i dderbyn hyfforddiant a chymryd rhan mewn gweithdai er mwyn dysgu sgiliau ymchwil, dulliau dyfeisio, a sgiliau creu ar y cyd. 

Beth oedd y briff? Yn syml, cynnig cyfle i gyd-greu drwy ddyfeisio mewn gofod creadigol. 

Y gobaith oedd bod y syniadau a gyflwynir yn arwain at gomisiynau gan Theatr Genedlaethol Cymru i ddatblygu cynyrchiadau theatr byw dyfeisiedig. Roedd yn fodd i artistiaid a chrewyr cynnwys dramataidd o bob math ddatblygu perthynas greadigol a phroffesiynol gyda Theatr Genedlaethol Cymru ac S4C. 

Croesawyd pob math o artistiaid: actorion, dramodwyr, awduron, storïwyr, cyfarwyddwyr drama o bob math, cerddorion, cyfansoddwyr, dawnswyr, coreograffwyr, cynllunwyr set a gwisgoedd, cynllunwyr sain a goleuo, artistiaid fideo a mwy. 

Dewch i 'nabod y 12 artist oedd yn rhan o'r cynllun:

Rhiannon Mair - Arweinydd Pair

Wedi graddio mewn Theatr, Ffilm a Theledu, bu Rhiannon Mair yn gweithio fel actores, yn bennaf i gwmni Theatr Arad Goch. Dychwelodd i Brifysgol Aberystwyth i astudio M.A. Ymarfer Perfformio dan arweinyddiaeth Mike Pearson, cyn symud i Brifysgol De Cymru, lle bu’n ddarlithydd ar y radd BA Theatr a Drama am ddegawd. Yn ystod ei chyfnod yno, wedi’i hysbrydoli gan ei diddordeb mewn gofod a defod, cwblhaodd ddoethuriaeth rhannol ymarferol yn dwyn y teitl ‘Y Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad’ – yn ogystal â chael dau o blant!  Mae hi wedi dyfeisio gwaith yn unigol, gyda grwpiau, ac mewn perfformiadau ar y cyd gydag Eddie Ladd, a’r artist Lowri Davies. Mae Rhiannon bellach yn gweithio fel Ymarferydd Theatr a Pherfformio ac Ymchwilydd Creadigol. Yn ddiweddar creodd berfformiad storïol oedd yn edrych ar gymhlethdod effaith tai haf yn Sir Benfro i Theatr Volcano.

Elin Phillips

Ar ôl hyfforddi fel actores dros bymtheg mlynedd yn ôl yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mae Elin wedi gweithio ar lwyfannau ledled Cymru ar ystod eang o waith; Shakespeare, ysgrifennu newydd, gwaith dyfeisiedig, theatr i bobl ifanc, a gwaith corfforol i gwmnïau fel Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, West Yorkshire Playhouse, Volcano a The Other Room. 

Yn ddiweddar, mae Elin wedi dechrau ysgrifennu i’r llwyfan. 

Yn ddiweddar, mae Elin hefyd wedi cychwyn cwmni theatr o’r enw Criw Brwd gyda Gwawr Loader. Bwriad y cwmni yw dathlu lleisiau gwahanol Cymru yn enwedig rhai’r Cymoedd a'r de-ddwyrain, yn ogystal â ffocysu ar straeon gydag elfen ffeministaidd. 

 
“Fel ysgrifennwr a chyfarwyddwr gweddol newydd, bydd y profiad yma’n amhrisiadwy i fi fel gweithwraig lawrydd ac yn adeiladol i Criw Brwd. Mae yna brinder o gyfleodd i artistiaid ddatblygu eu crefft, yn enwedig i’r rheini sy’n hŷn na 30 sy'n cael eu hepgor o sawl cynllun datblygu.  
Bydd y cyfle yma’n ein helpu i ddatblygu gwaith newydd yn y Gymraeg ac i’n herio fel artistiaid. 
Yn sgil y pandemig, mae creu gwaith newydd wedi llorio sawl un ohonom gan beri i ni golli’n hyder. Dyma gynllun ffantastig i helpu artistiaid i ddod yn ôl at eu coed ar ôl profi trawma cenedlaethol. 
Mae’r cyfle i greu a datblygu gwaith newydd gyda grŵp hynod o dalentog yn fy nghyffroi yn ddi-baid!” 

Gwawr Loader

Mae Gwawr yn dod o Fynwent y Crynwyr yn wreiddiol ac erbyn hyn yn byw yn Grangetown, Caerdydd. Ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2011, mae Gwawr wedi mwynhau gyrfa amrywiol ar lwyfan a theledu ac yn fwy diweddar hefyd fel dramodydd a chynhyrchydd. Mae gweithio’n agos a chael ei herio gan unigolion creadigol Pair, sy'n cynnig sawl disgyblaeth, yn llesol. Mae dod i wybod a dysgu am yr achosion cyfredol maen nhw'n frwd drostyn nhw yn sail gwych i Gwawr i ddysgu a datblygu.  

“Dw i'n gobeithio bydd gen i sail cryfach fyth i allu creu a datblygu syniadau erbyn diwedd y prosiect. Hefyd byddaf wedi dechrau perthynas gydag artistiaid eraill fydd yn ein galluogi i greu gwaith ar y cyd yn y dyfodol.” 

Luned Gwawr

Magwyd Luned yn y Gymraeg yng Nghaerdydd ac mae wedi byw yno drwy gydol ei bywyd. Astudiodd Luned gwrs Celf Sylfaenol ar ôl iddi adael yr ysgol ac yna mynd ymlaen i wneud gradd Cynllunio ar gyfer Perfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 

Mae Luned yn ddylunydd setiau, gwisgoedd, propiau a phypedau ac mae hefyd wedi gweithio fel gwneuthurwr mewn sawl prosiect yn cynhyrchu pypedau a phropiau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, dechreuodd gynhyrchu gwaith dyfeisiedig gyda artistiaid arall, oedd yn ysgogiad i Luned i ymgeisio i gynllun Pair. Mae gan Luned ddiddordeb mawr mewn ymchwilio i amrywiaeth o gelf a’i ddefnyddio fel sail llawer o'i gwaith, drwy ddeifio i’r themâu sy’n ysgogi ysbrydoliaeth a ffeindio cydbwysedd rhwng y byd abstract a realaeth. 

“Dw i’n gweld y profiad yma fel un gwerthfawr gan fod eisiau mwy o ddylunwyr i fod yn rhan ganolog o greu gwaith gwreiddiol o’r pwynt dyfeisio. Roedd gen i ddiddordeb yn benodol yn y Pair, oherwydd mae gen i syniadau fy hunan am waith ond mae angen magu hyder mewn arweiniad arna i drwy hyfforddiant a gweithdai, er mwyn dysgu a deall mwy am ddulliau dyfeisio ar gyfer fy ngyrfa i’r dyfodol.” 

Mari Elen

Yn wreiddiol o Harlech ond bellach yn byw yng Nghwm y Glo ger Llanrug.  

Mae Mari yn sgwennwr, yn berfformiwr, yn bodlediwr, ac yn grëwr podlediad Gwrachod Heddiw.  

Ers graddio o gwrs Theatr a Pherfformio Prifysgol De Cymru yn 2015, gweithiodd Mari gyda sawl cwmni theatr a chwmni cynhyrchu yng Nghymru yn ysgrifennu, perfformio, creu a chyfarwyddo. Yn haf 2021, derbyniodd ei phodlediad y wobr arian yng ngwobrau'r British Podcast Awards, ac yn dilyn hyn, cafodd wahoddiad i fynd ar bodlediad The Guilty Feminist sy’n cael ei lawrlwytho gan filiynau o wrandawyr yn wythnosol. 

“Cefais fy hyfforddi mewn theatr ddyfeisiedig yn y Brifysgol, ond dw i’n teimlo ’mod i heb wneud y mwyaf o fy ngradd, a bellach dw i’n teimlo ’mod i wedi colli gafael yn y peth sy’n fy nghyffroi i fwyaf, sef creu theatr ddyfeisiedig fyw. Dw i’n credu y bydd Pair yn rhoi’r hyder i mi weld fy hun fel artist a pherfformiwr eto, ac yn fy annog i wthio fy hun pan ydw i’n mynd yn gyfforddus yn fy ymarfer.” 

Macsen McKay

Actor a Chyfarwyddwr o Gaerdydd yw Macsen sydd hefyd yn sgwennu barddoniaeth a chaneuon. Ymgeisiodd i fod yn rhan o gynllun Pair gan mai cydweithio efo artistiaid eraill yw ei hoff ran o unrhyw waith creadigol, ac roedd hyn yn teimlo fel siawns wych i wneud yr union beth hynny. Hefyd roedd hi’n teimlo fel siawns rili sbesial i gael y profiad o wneud hynny mewn cyd-destun hollol Gymraeg a drwy’r Gymraeg. 

“Fy ngobeithion o’r cynllun yw cysylltu efo artistiaid fyswn i ddim wedi cysylltu efo nhw heb y cynllun, a chreu gwaith efo’r artistiaid yna sy’n teimlo’n agored ac yn gyffrous, ac sy’n dangos yr holl fathau o leisiau a thalentau gwahanol a newydd sy’n gweithio ac yn datblygu yng Nghymru ar hyn o bryd.” 

Steffan Phillips

Mae Steff yn artist amlddisgyblaethol o Aberteifi sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. 

Derbyniodd radd BA mewn Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, ac mae wrthi’n astudio MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd. 

Bu’n Gynhyrchydd Cysylltiol gyda Chanolfan Mileniwm Cymru ac mae wedi cynhyrchu i Gwmni Theatr Arad Goch a Gŵyl y Cynhaeaf. Treuliodd gyfnodau dan hyfforddiant gyda thimau cynhyrchu Traverse Theatre yng Nghaeredin, Paines Plough yn Llundain, a The TEAM yn Efrog Newydd, a rhwng 2017 a 2021 bu’n gweithio fel Swyddog Llenyddiaeth yn y Gymuned gyda Llenyddiaeth Cymru lle bu’n gyfrifol am gydlynu prosiectau Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales. 

Mae’n hoff o farddoni, ac yn 2021 roedd yn aelod o dîm a gyd-enillodd Zoomryson yr Eisteddfod AmGen. Ymddiddora hefyd mewn creu ffilmiau byrion, ffotograffiaeth a chanu offerynnau cerdd.  

“Fy mhrif resymau dros ymgeisio ar gyfer Pair yw i ddysgu rhagor am dechnegau dyfeisio, i gydweithio a meithrin perthynas gydag artistiaid eraill, ac i gyd-greu gwaith heriol ac arloesol. Yn ystod y broses hyd yn hyn, dw i wedi ailddarganfod fy hoffter o berfformio, ac rwy’n gobeithio parhau i ddatblygu ac ymwneud â phrosiectau creadigol amrywiol yn llawrydd.” 

Emmy Stonelake

Artist aml-ddisgyblaethol Cwiyr sy'n dod o Aberdâr yn wreiddiol ydy Emmy. Ers iddi hyfforddi fel actor/cerddor, mae Emmy wedi mynd ati i greu gwaith drwy gyfansoddi, sgwennu a chyfarwyddo yn ogystal â’i gwaith fel perfformiwr. 

 
“Roeddwn i am fod yn rhan o Pair am nifer o resymau – yn bennaf, gan ’mod i'n awyddus i ffeindio ffyrdd newydd o greu gwaith cyfoes sy'n berthnasol i'n cynulleidfaoedd ac oherwydd nad ydw i fel crëwr theatr ddim yn gyfarwydd iawn gyda gwaith dyfeisiedig, yn enwedig yng Nghymru na drwy gyfrwng y Gymraeg! Dw i'n gobeithio cysylltu gyda gweithwyr theatr newydd a chyffrous sy'n gweithio ar draws nifer o grefftau gwahanol fel rhan o'r broses hon, a chael fy ysbrydoli gan yr artistiaid hynny yn ogystal â'r ymarferion sy'n rhan o gyd-greu gwaith dyfeisiedig. Mae'n bwysig i ni fel Cymry ffeindio ffyrdd newydd o greu gwaith sy'n hygyrch, yn draws-lwyfannol ac sy'n adlewyrchu'r amser ’dan ni'n byw ynddo fe, ac mae cynllun Pair yn ddechreuad da iawn yn fy marn i!” 

Heulwen Williams

Cerddor queer ac anneuaidd, sy’n canu, yn chwarae'r ffidil, y gitâr, y chwiban a’r harmoniwm, ac yn ysgrifennu alawon a chaneuon ydy Heulwen.  

Mae Heulwen yn tynnu syniadau o gerddoriaeth werin draddodiadol i greu cerddoriaeth newydd, sy’n llawn hanes ond sy’n siarad â'r presennol. 

Mae’n cael ei hysbrydoli gan gerddoriaeth werin Gymraeg, chwedlau gwerin, straeon, hanes cymdeithasol, a’i pherthynas gyda’i hunaniaeth ryweddol. Mae hyn yn dod allan yn ei gwaith yn y tiwns mae’n eu creu a'r caneuon mae’n eu hysgrifennu. 

“Rwyf ar ddechrau fy nhaith i fel cerddor proffesiynol, felly bydd cyfle’r prosiect yma’n dod ata i yn llawn, bydd cael siawns i ddysgu mwy a gweithio gyda gwahanol bobl yn y proffesiwn yn wych. 

Dw i wedi gweithio gyda phobl sy’n dod â syniad parod, maen nhw’n gwybod beth maen nhw eisiau ei greu, ac mae'n rhaid i fi greu cerddoriaeth o gwmpas y syniad hwnnw. 

Dw i'n hoff iawn o syniad y prosiect yma, Pair o bobl yn dod at ei gilydd i weld beth allan nhw greu, ac i ddyfeisio rhywbeth newydd. Bydd cael yr amser a'r cyfle i ddod i weithio gyda phobl newydd, a gweld beth alla i ei greu efo nhw, yn gyfle gwych i fi.” 

Nia Morais

Mae Nia yn awdur a dramodydd o Gaerdydd. Mae ganddi ddiddordeb mewn straeon byrion, drama, ffantasi ac arswyd. Awdur o Gymru a’r Cabo Verde yw Nia, wnaeth raddio gyda gradd meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd. Ym mis Hydref 2020, cafodd ei drama glywedol gyntaf, “Crafangau”, ei darlledu gan Theatr y Sherman. Cafodd y ddrama ei hail-ysgrifennu yn 2021 ar gyfer Gŵyl Gwên o Haf yng Nghaerdydd. Mae hi hefyd yn gweithio ar ddrama am Betty Campbell a hanes dociau Caerdydd ar gyfer haf 2022. Fel arfer mae ei gwaith yn ffocysu ar hunaniaeth. 

"Dwi'n edrych ymlaen at ddysgu ffyrdd newydd o hel syniadau, ac at fod yn rhan o grwp o bobl creadigol sy'n angerddol am newid theatr yng Nghymru."

Fflur Medi Owen

Mae Fflur wedi bod yn actor ers 25 o flynyddoedd ac mae’n byw yn Eryri. 

Diddordeb a chwilfrydedd yn y natur 'ddynol' – yr amodau sy'n ein g'neud ni yn pwy ydan ni. Mae'n mwynhau archwilio, mewn sawl ffordd, be sy'n creu agosatrwydd? Be sy'n creu ac yn gyrru pellter? A drama, felly, fel yr alcemi o liwio a llenwi’r gofod rhwng y ddau. 

Gobeithia Fflur ehangu ei gorwelion fel artist y tu hwnt i'r taflwybr arferol, disgwyliedig o greu theatr.  

“Wnes i ymuno â chynllun Pair i ymchwilio i ddulliau amgen o ddweud stori. Yn enwedig felly drwy ddefnyddio'r corff. Ar gyfer yr adegau hynny pan nad yw geiriau’n ddigon!” 

Mae'n fam sengl i Twm a Nyfain. 

 

Nikki Hill

Wedi’i magu ym mynyddoedd Eryri, mae Nikki yn berson ymarferol sydd mewn cariad efo'r byd. Mae’n angerddol am y byd naturiol, anturiaethau o bob math, straeon a phobl.

Dyfeiswraig theatr gorfforol gyda chefndir mewn syrcas a dawns ydy Nikki. Mae’n glown, yn actores ac yn gyfarwyddwr sy'n mwynhau creu gwaith sy'n cyfuno comedi a thywyllwch fel dwy ochr o'r un llafn.

Teimla Nikki yn angerddol ynglŷn â dod â phobl at ei gilydd i'w cysylltu a defnyddio gwaith celf a chreadigol i wneud hyn. Mae rhannu profiadau gydag eraill yn rhywbeth mae’n byw er ei fwyn, ac mae defnyddio theatr fel cyfrwng i wneud hyn yn beth cyffrous i Nikki.

“Mae cynllun Pair yn anfon cyffro drwydda i wrth feddwl am greu gwaith newydd a gwreiddiol yng Nghymru. Mae'r cyfle i mi fod yn rhan ohono yn fraint. Dw i'n obeithiol y bydd cydweithio gydag artistiaid eraill o Gymru yn Gymraeg yn arwain at berthnasau creadigol newydd ac yn arwain at fwy o waith dyfeisiedig gwreiddiol yn Gymraeg yn y dyfodol.”

Nico Dafydd

Cyfarwyddwr, awdur ac artist gweledol yw Nico Dafydd. Mae'n gweithio dros ystod o blatfformau, gan ganolbwyntio ar ffilm a fideo ynghyd a gwaith theatr yn bennaf.

"Ro'n i eisiau bod yn rhan o Pair i ddarganfod ffyrdd newydd o greu ac o ehangu fy ngwaith, i'w ddefnyddio ar bob math o brosiect. Dwi'n gobeithio cysylltu gydag artistiaid newydd hefyd."