Yn galw pobl ifanc Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Penybont a Chastell Nedd Port Talbot!

Mae Cynyrchiadau Leeway mewn partneriaeth â Theatr Soar a Theatr Genedlaethol Cymru yn lansio Academi Leeway, sef academi theatr gerdd ar lawr gwlad i bobl ifanc 14 – 25 oed.

Nod Academi Leeway yw bod yn labordy i ddatblygu sioeau cerdd newydd yng Nghymru gan gynnig hyfforddiant ac ysbrydoli pobl ifanc drwy ddefnyddio deunydd newydd sbon o Gymru.

Bydd Academi Leeway yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddod â straeon ac hanesion lleol i’r llwyfan a chreu theatr gerdd newydd sydd â gwreiddiau dwfn yng Nghymru. Drwy weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr o’r celfyddydau, bydd Academi Leeway yn ysgogi, yn ysbrydoli ac yn cynnig llwybrau clir i’r y dyfodol i’r bobl ifanc hynny fyddai’n dymuno cymryd rhan.

Cyfle i bobl ifanc sydd eisiau datblygu eu sgiliau creadigol, sydd â diddordeb mewn creu neu berfformio theatr gerdd ac sy’n barod i wthio’r ffiniau. Cantorion, cerddorion, cyfansoddwyr, awduron, dylunwyr, beirdd, bît-bocswyr… artistiaid neu berfformwyr o unrhyw fath.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Academi Leeway, cysylltwch ag Angharad Lee: leewayprods@gmail.com

Academi Leeway 2021

Yn dilyn galwad agored, mae Cynyrchiadau Leeway, mewn partneriaeth â Theatr Soar a ninnau yn Theatr Genedlaethol Cymru, yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r artistiaid sy’n rhan o flwyddyn gyntaf Academi Leeway.

Yr artistiaid yw: Deryn Allen-Dyer; Mia Cradle; Kira Davies; Rhydian Edbow; Sion Elfyn; Catrin England; Emily Harker; Lowri James; Eleri Lewis-Payne; Ffion Lowe; Lili Mohammad; Grace Rogerson; Elis Myers Sleight; Tomos Stokes; Zak Sutcliff; Dafydd Veck; Lloyd Williams; Chloe Teresa Wilson; ac Ellie Wyatt. Mae’r holl artistiaid ifainc yn dod o ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Pen-y-bont, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot ac maen nhw’n dod â gwahanol arbenigeddau celfyddydol i’r grŵp, gan gynnwys canu, actio, darlunio a chwarae offerynnau.

Mewn sesiynau ar-lein wythnosol, mae aelodau’r academi yn gweithio dan arweinyddiaeth Angharad Lee a chyda thri chyfansoddwr profiadol, sef Kizzy Crawford, Lynwen Haf Roberts a James Williams. Mae’r criw yn gweithio ar dri darn o waith dan y teitl Rhyfeloedd y ’Rona, sydd wedi’u hysbrydoli gan argyfwng y Coronafeirws ac ymatebion y cyhoedd i’r newyddion o ddydd i ddydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Fel rhan o’r gwaith hwn, bydd cyfle i’r bobl ifanc greu stori a chymeriadau, cyfansoddi a pherfformio.

I ddarllen mwy am artistiaid Academi Leeway 2021, cliciwch yma.