Mae Clwb Theatr Cymru yn brosiect ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Mentrau Iaith Cymru sy’n dod â phlant Cymru ynghyd i fwynhau amrywiaeth o weithdai dros Zoom. Mae’r sesiynau – sy’n cael eu trefnu gennym ni yn Theatr Genedlaethol Cymru ac yn cynnwys cyfleoedd i ddawnsio, perfformio a chreu cymeriadau – yn addas i blant ysgolion cynradd o flynyddoedd 2 i 6.
Yr arbenigwyr yn arwain ar yr hwyl oedd Owen Alun, Jalisa Andrews, Ffion Wyn Bowen a Sian Elin. Mae pob Menter Iaith ar draws Cymru yn rhan o’r cynllun, a chyfranogwyr o bob ardal drwy Gymru.
Ers nifer o flynyddoedd, ry’n ni wedi gweithio’n agos gyda Mentrau Iaith yng ngorllewin Cymru i ddarparu Clybiau Drama bob wythnos. Clwb Theatr Cymru dros yr haf yn 2020 oedd y tro cyntaf i’r cwmni weithio mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru i ddod â’r holl fentrau ledled Cymru ynghyd a darparu gwaith cyfranogi ar y raddfa hon.
"Mae Osian wrth ei fodd yn perfformio yn actio, dawnsio neu canu. Mae o isio fod yn actor neu mewn musical! Diolch unwaith eto am y sesiynau yn bendant un mantais o’r COVID yma oedd i Osian bod yn rhan o’r sesiynau."
Rhiant
Dyma fideo yn adrodd hanes Clwb Theatr Cymru dros haf 2020. Daeth 118 o blant o ardaloedd 18 Menter Iaith ledled Cymru at ei gilydd i fwynhau sesiynau wythnosol ar-lein. Prosiect Theatr Genedlaethol Cymru a Mentrau Iaith Cymru.
Clwb Theatr Cymru Nadolig
Yn dilyn llwyddiant ysgubol Clwb Theatr Cymru yn ystod haf 2020, trefnwyd rhagor o sesiynau ar y cyd â Mentrau Iaith Cymru ar gyfer y Nadolig – Clwb Theatr Cymru Nadolig.
Roedd y sesiynau hyn – dan arweiniad Richard Elis, Jalisa Andrews a Sian Elin - yn gyfle i blant drwy Gymru fwynhau sesiynau pantomeim a dawns yn ystod gwyliau’r Nadolig 2020. Cafwyd llawer iawn o hwyl a sbri gan bawb!
Prosiectau Eraill
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Murlun Ysgol Bro Pedr
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
-
Connect Up
Mae Theatr Genedlaethol Cymru – ochr yn ochr â Galactig – yn falch iawn o fod yn bartner technegol ar brosiect Connect Up.