Wedi’i threfnu gan Lywodraeth Cymru, mae’r wythnos hon yn gyfle i dynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd creadigol sydd ar gael, a’r gwerth maent yn ei roi i gyflogwyr a dysgwyr ar draws Cymru. Mae hefyd yn gyfle gwych i ni yn Theatr Genedlaethol Cymru godi ymwybyddiaeth am brentisiaethau yn y celfyddydau yng Nghymru a’r amrywiaeth o swyddi creadigol sydd ar gael.

Dyma’r eildro i ni gefnogi’r dathliadau a rhoi chwyddwydr ar gyfleoedd yn y celfyddydau ar ôl blwyddyn lwyddiannus y llynedd. Yn 2020, darparwyd cyflwyniad technegol i ysgolion yng Nghymru. O ganlyniad i gyfyngiadau COVID, mae’r gwaith eleni’n digwydd yn rhithiol, ac felly mae’r cwmni wedi creu cyflwyniad ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg sy’n rhoi blas o fyd y theatr a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Bydd yr adnodd, sy’n cynnwys capsiynau caeedig yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar gael i bob ysgol uwchradd yng Nghymru.

Mae’r cyflwyniad yn cynnwys cyfweliadau gydag Angharad Davies (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Genedlaethol Cymru) a Morgan James (cyn-Brentis Technegol y cwmni), yn ogystal ag esboniad am gyfleoedd yn y diwydiant teledu a ffilm gan Sue Jeffries (Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru) a Zahra Errami, sydd bellach yn newyddiadurwr gydag ITV ar ôl hyfforddi trwy gynllun prentisiaethau Sgil Cymru. Mae’r cyflwyniad hefyd yn cynnwys gweithdy creadigol gyda’r cyfansoddwr a’r cynllunydd sain Dan Lawrence, sy’n dangos sut mae cerddoriaeth a synau’n medru ychwanegu at gynhyrchiad theatr.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i ni yn Theatr Genedlaethol Cymru gymryd rhan yn Wythnos Prentisiaethau Cymru. Y llynedd, aethom i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Maesteg ac Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhenybont-ar-Ogwr i gynnal sesiynau yn cynnig cyfleoedd i’r disgyblion ddysgu am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol a chlywed am brofiadau o fod yn brentis. Dyma fideo am y sesiynau hynny yn 2020.