Ganwyd Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod cyfnod cyffrous yn hanes ein gwlad, dim ond pedair blynedd ar ôl sefydlu Senedd Cymru a chychwyn cyfnod newydd o ddatganoli. Ar y pryd roedd ein hunaniaeth fel Cymry yn bwnc trafod ledled y wlad ac roedd yr awch i wireddu breuddwyd hirhoedlog o greu theatr genedlaethol iaith Gymraeg yn fyw.

Sefydlwyd y cwmni ym mis Mawrth 2003, trwy grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a hynny mewn lleoliad dros dro yng Nghaerfyrddin gyda phum aelod o staff llawn amser a chwmni o bedwar actor.

Bu trafodaeth frwd am genhadaeth y cwmni. A ddylai theatr genedlaethol fod mewn un man sefydlog? Beth fyddai arlwy’r cwmni? O’r cychwyn cyntaf roedd un peth yn glir – mai nod y cwmni fyddai teithio, a mynd â theatr Gymraeg ei hiaith i galon cymunedau ledled Cymru, gan ddathlu ein hunaniaeth a’n hiaith yn ei holl amrywiaeth.

Cefin Roberts oedd y cyntaf wrth y llyw fel Cyfarwyddwr Artistig (2003-2011) – a’r ddrama Yn Debyg Iawn i Ti a Fi gan y diweddar Meic Povey oedd y gyntaf i’w llwyfannu ym mis Ebrill 2004.

Yn 2008, llwyfannwyd y cynhyrchiad epig Iesu! gan Aled Jones Williams gyda Fflur Medi Owen yn serennu. Gyda merch yn y brif ran wrywaidd, dyma gychwyn ar dorri tir newydd a herio disgwyliadau ein cynulleidfa. Yn yr un flwyddyn, ymgartrefodd y cwmni yn Y Llwyfan, Caerfyrddin. Roedd y Llwyfan yn rhan bwysig o’n siwrnai. Roedd yr ystafell ymarfer yn gartref dros dro i sawl cast a chriw, yn fan cychwyn i nifer o syniadau yn ogystal â llwyfan i gannoedd o blant lleol fyddai’n mwynhau clybiau drama gyda ni.  

Yn 2011, fe benodwyd Arwel Gruffydd yn Gyfarwyddwr Artistig (2011-2022).Yn yr un flwyddyn, teithiodd Llwyth gan Daf James, ein cyd-gynhyrchiad gyda Theatr y Sherman, i Ŵyl Ymylol Caeredin –  cynhyrchiad cyntaf y cwmni i ymddangos yn yr ŵyl theatr fyd-enwog. Yn chwa o awyr iach a chyfle i roi llwyfan i leisiau a straeon sydd heb gael eu cynrychioli yn aml yn y theatr Gymraeg, cyflwynodd Llwyth stori grŵp o ffrindiau hoyw yn byw yng Nghaerdydd.

Yn unol â’n nod o ddod â theatr i’r bobl, a bod unrhyw le yn llwyfan posib, daeth strydoedd Aberystwyth yn theatr i ni yn 2013 ar gyfer ein cynhyrchiad epig undydd, Y Bont. Dyma gynhyrchiad i nodi hanner can mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith lle cafwyd torfeydd o bobl ifanc yn galw am statws cyfartal i’r Gymraeg. Roedd e’n gynhyrchiad aml-haenog gyda ffilmiau byrion, blogiau, archif a theatr y stryd - gyda 500 o bobl yn ail-greu’r brotest dyngedfennol honno o 1963.

Ar ôl llwyddiant Y Bont, aeth ein theatr safle benodol o nerth i nerth. Perfformiwyd Blodeuwedd yn yr heulwen braf ar Domen y Mur, Trawsfynydd, yn 2014 i gynulleidfa ar gerdded. Morfydd Clark oedd yn chwarae’r brif ran, a dyma gychwyn ar yrfa ddisglair sydd wedi mynd â Morfydd i uchelfannau’r byd teledu a ffilm.

Perfformiwyd addasiad y diweddar Gwyn Thomas o Macbeth hefyd ar leoliad yng Nghastell Caerffili ym mis Chwefror 2017. Fe’i darlledwyd i 14 o sinemâu yn fyw ar un noson fythgofiadwy. Cefnogwyd y cynhyrchiad gan gast cymunedol arbennig o’r ardal leol, fel y gwnaed hefyd gyda chast cymunedol dawnus ein cynhyrchiad Chwalfa nôl yn 2016.

Wrth i’r cwmni fynd o nerth i nerth, tyfodd ein cynulleidfa, ac yn 2015 lansiwyd Sibrwd, yr ap mynediad iaith arloesol, sydd wedi agor byd o theatr Gymraeg i fwy o bobl.

Fel Y Bont gynt, roedd Nyrsys, ein sioe gerdd gair-am-air yn 2018, yn nodi achlysur arbennig. Yn ystod y flwyddyn honno, dathlwyd 70 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac roedd hi’n fraint cael bod yn rhan o’r sgwrs genedlaethol i ddathlu’r unigolion anhygoel hynny sy’n achub bywydau a chynnal sefydliad amhrisiadwy. Daeth iechyd a lles hefyd yn ganolbwynt i waith cyfranogi'r cwmni yn 2019, gyda lansiad y prosiect hirdymor Ar y Dibyn, ar y cyd ag Iola Ynyr ac amrywiaeth o bartneriaid, i gefnogi rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth. Hyd yma, mae’n cyfranogwyr wedi datblygu gwaith ysgrifenedig, gwaith celf ac wedi gweithio ar gynhyrchu ffilm arbennig; oll yn seiliedig ar eu profiadau a’u teimladau personol nhw.

Yn 2020, fel pawb arall, fe wynebodd y cwmni gyfnod heriol tu hwnt. Wrth i Tylwyth – dilyniant i Llwyth – agor yn Theatr y Sherman i ganmoliaeth ysgubol, fe dorrodd newyddion rhyngwladol bod feirws peryglus yn byw yn ein plith a bod mesurau digynsail yn cael eu gosod i’n diogelu. Yn sgil pandemig Covid-19 a’r cyfnodau clo, roedd gofyn i ni ailystyried ein gwaith a symud ein cynyrchiadau i’r sgrin. Fe grëwyd 8 darn newydd o waith digidol, yn cynnwys 3 pherfformiad byw, gan hefyd ryddhau 9 ffilm o'n harchif a chynnal 132 o sgyrsiau a sesiynau cyfranogi. Cafodd y gwaith hwn dros 78,000 o wyliadau.

Wrth i gyfyngiadau lacio, aethom ar ein taith gyntaf ar ôl y cyfnod clo i leoliadau awyr agored gyda Gwlad yr Asyn. Yn hydref 2021, cawsom ymweld â theatrau Cymru unwaith eto gydag Anfamol – drama un fenyw am fam sengl. Profodd y cynhyrchiad hwn yn boblogaidd iawn gyda chynulleidfaoedd, ac mae’r ddrama bellach wedi datblygu’n gyfres deledu gyda S4C.

Mae 2023 yn nodi ugain mlynedd ers sefydlu’r cwmni. Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi cofleidio clasuron y theatr Gymraeg a gwaith arbrofol newydd sbon, ac wedi cyflwyno’r cyfan ar lwyfannau traddodiadol ac mewn lleoliadau annisgwyl. Gyda Steffan Donnelly yn arwain fel Cyfarwyddwr Artistig ers 2022, ochr yn ochr â’i Gyd-Brif Weithredwr Angharad Jones Leefe, a chartref newydd i’r cwmni yn yr Egin, mae oes newydd yn gwawrio.

Ymlaen â ni at anturiaethau’r ugain mlynedd nesaf. Dewch gyda ni!