Oes ganddo’ chi reddf am y digrif? Ydy’ch syniadau chi yn byrlymu o chwerthin? 

Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd yn chwilio am ddramodwyr mwyaf doniol Cymru i ddechrau prosiect newydd sbon. Diddordeb? Cadwch i ddarllen.

Mae Ha/Ha yn gyfle newydd i artistiaid Cymraeg sy’n awyddus i ddatblygu’r grefft o ysgrifennu comedi i’r llwyfan ac i greu perfformiad comedi byr. Ry’n ni’n chwilio am 4 artist i ysgrifennu drama gomedi 10 munud o hyd, i’w llwyfannu yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024. Fel rhan o Ha/Ha, bydd yr artistiaid llwyddiannus yn cael cyfleoedd datblygu wrth ysgrifennu eu darnau, yn cynnwys dosbarth feistr a mentoriaeth broffesiynol gydag un o brif ddramodwyr/awduron sgrin y DU, James Graham.

Ha/Ha yw’r bennod gyntaf mewn partneriaeth newydd hir-dymor rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd, gyda’r nod o ddatblygu a chynhyrchu dramâu comedi newydd Cymraeg i gynulleidfaoedd o bob oed.

Sut i ymgeisio:

Mae Ha/Ha yn gwahodd ceisiadau gan unrhyw un sy’n ateb y gofynion isod:

  • Yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn
  • Yn siarad Cymraeg neu’n awyddus i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith
  • Yn artist neu weithiwr celfyddydol â phrofiad neu uchelgais o ysgrifennu comedi ar gyfer y llwyfan

Bydd dau gam i’r broses ymgeisio ar gyfer Ha/Ha – yn gyntaf, bydd cyfnod mynegi diddordeb, ac yna byddwn yn gwahodd y rheiny sy’n cyrraedd y rhestr fer i gyflwyno braslun gyda thâl.

Cam 1: Mynegi Diddordeb (wedi cau)

I fynegi eich diddordeb mewn bod yn rhan o Ha/Ha, cwblhewch ffurflen Mynegi Diddordeb yn y Gymraeg drwy Microsoft Forms, neu gallwch gyflwyno cais fideo nad yw’n fwy na 2 funud o hyd at: creu@theatr.com neu drwy WhatsApp ar 07903 842616. Bydd gofyn i chi hefyd gyflwyno’r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb.

Dyddiad cau i fynegi diddordeb: 25 Mawrth 2024, 12pm

Bydd panel yn ystyried y ceisiadau ac yn cytuno ar restr fer o 10 ymgeisydd: mae aelodau’r panel i’w cadarnhau.

Cam 2: Cyflwyno Braslun (rhestr fer yn unig)

Bydd y 10 ymgeisydd ar y rhestr fer yn clywed oddi wrthym ar 1 Ebrill 2024 gyda gwahoddiad i gyflwyno syniad am ddrama gomedi 10 munud o hyd. 

Byddwn yn darparu ffurflen gais, yn ogystal â manylion ynghylch sut i gyflwyno eich syniad, i’r 10 sy’n cyrraedd y rhestr fer. Byddwn yn cynnig ffi o £50 yr un i aelodau’r rhestr fer wedi iddyn nhw gyflwyno eu brasluniau. 

Dyddiad cau i geisiadau llawn: 22 Ebrill 2024, 12pm 

Wedi derbyn a thrafod pob un braslun, bydd y panel yn dewis 4 o’r rhain i gael eu datblygu ymhellach gyda ni. Bydd gwaith terfynol y 4 dramodydd yma’n cael eu llwyfannu yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

Graphic announcing the judging panel for Ha Ha. From top left to bottom right: Rhian Blythe, Emyr John, Steffan Donnelly, Daniel Lloyd, and Leila Navabi

Datblygu’r Ddrama Gomedi (4 artist llwyddiannus yn unig) 

Yn ystod yr wythnosau canlynol, bydd y 4 dramodydd llwyddiannus yn mynd ati i weithio ar eu sgriptiau ar gyfer y perfformiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd cyfle i’r 4 dramodydd yma fynychu sesiwn ar-lein am ddim gydag arbenigwyr ym maes ysgrifennu comedi. 

Bydd y 4 dramodydd hefyd yn derbyn cefnogaeth dramatwrgaidd ac yn gweithio’n agos gyda chyfarwyddwyr proffesiynol fydd yn eu cynorthwyo a’u harwain trwy’r broses, bob cam o’r ffordd. 

Y dyddiadau cyflwyno ar gyfer y drafftiau fydd:

Drafft  1:  10 Mehefin 2024 

Drafft terfynol: 8 Gorffennaf 2024 

Bydd cyfarfodydd 1 wrth 1 i drafod a rhoi adborth yn cael eu trefnu yn nes at yr amser ac yn ddibynnol ar argaeledd yr unigolion. 

Fis Awst, bydd y 4 drama gomedi 10 munud o hyd yn cael eu llwyfannu am dair noson yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd. Bydd y 4 dramodydd yn derbyn ffi o £700 yr un am eu gwaith.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynllun hwn neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â Steffan Wilson-Jones: steffan.wilson-jones@theatr.com