Newyddion 06/03/2024

Ha/Ha: Galwad am Artistiaid

A title treatment for the project Ha/Ha - the title is purple and blue on a black rectangular background. There are dots, similar to lights, around the sides.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd yn chwilio am awduron Cymraeg doniolaf Cymru i fod yn rhan o brosiect newydd sbon o’r enw Ha/Ha.

Mae'r sefydliadau yn chwilio am bedwar artist i ysgrifennu drama gomedi 10 munud o hyd a bydd y dramâu gorffenedig yn cael eu llwyfannu gyda'i gilydd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 dan gyfarwyddyd Daniel Lloyd a Rhian Blythe. Fel rhan o Ha/Ha, bydd yr artistiaid llwyddiannus hefyd yn mwynhau cyfleoedd datblygu wrth ysgrifennu eu darn, gan gynnwys dosbarth feistr comedi a mentoriaeth broffesiynol.

Mae’r cyfle’n agored i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn, yn siarad Cymraeg neu’n awyddus i fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith. Byddant yn artist neu’n weithiwr llawrydd yn y sector creadigol, gyda phrofiad neu uchelgais i weithio ym myd y theatr. Mae dau gam i’r broses ymgeisio; yn gyntaf bydd cyfnod i artistiaid fynegi eu diddordeb yn y rhaglen, ac wedyn byddwn yn gwahodd y rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i gyflwyno cais llawn (gyda thâl).

Yn dilyn llwyddiant y papur newydd fyw Rŵan/Nawr yn yr Eisteddfod y llynedd, mae Ha/Ha yn ddechrau ar bartneriaeth hir-dymor newydd rhwng Theatr Clwyd a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda’r nod o ddatblygu a chynhyrchu comedi newydd yn y Gymraeg ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed.

Wrth gyhoeddi’r bartneriaeth newydd hon, dywedodd Steffan Donnelly, ein Cyfarwyddwr Artistig:

“Mae comedi wastad wedi bod wrth galon y Theatr Gymraeg. Mewn oes o ansefydlogrwydd byd-eang, mae’r profiad cymunedol o fod yn rhan o gynulleidfa, yn rhannu jôc a chwerthin gyda’n gilydd, yn bwysicach nag erioed. Fel cwmni, ry’n ni’n ymrwymo i ddatblygu artistiaid iaith Gymraeg y dyfodol, ac fel rhan o’r gwaith hwnnw, dw’i wrth fy modd i allu cyhoeddi prosiect Ha/Ha heddiw - cam cyntaf ein partneriaeth hir-dymor gyda’r tîm gwych yn Theatr Clwyd.” 

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, Kate Wasserberg: 

“Rwy’n hynod o gyffrous i fod yn cyhoeddi’r bartneriaeth hon gyda’r Theatr Genedlaethol Cymru rymus i ddatblygu comedïau newydd yn yr iaith Gymraeg. Mae’r pŵer o allu gwneud i gynulleidfa chwerthin yn beth anhygoel, a gyda’n gilydd edrychwn ymlaen at rannu’r talentau gorau oll o waith ysgrifennu Cymraeg gyda chynulleidfaoedd a lledaenu ychydig o lawenydd!”

Bydd rhagor o gynlluniau fel rhan o'r bartneriaeth hon yn cael eu cyhoeddi yn fuan.