Ry’n ni’n byw mewn argyfwng hinsawdd.   

Fel cwmni diwylliannol cenedlaethol, mae gennym ni gyfrifoldeb i gyflawni’n gwaith mewn ffyrdd mwy cynaliadwy, i leihau ein ol-troed carbon, ac i gychwyn a hwyluso sgyrsiau a syniadau sy’n ymdrin â’r argyfwng hinsawdd a’r effaith mae’n ei gael ar fywyd yng Nghymru a thu hwnt heddiw.   

Sut ry’n ni’n gweithredu  

Ein nod yw bod yn sefydliad sero net erbyn 2030, yn unol â tharged Sector Gyhoeddus Llywodraeth Cymru. Dyma sut mae pethau’n mynd: 

  • Ry’n ni’n dilyn canllawiau Llyfr Gwyrdd y Theatr (theatregreenbook.com) i sicrhau bod ein cynyrchiadau yn gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys gwneud cynaliadwyedd yn un o’r prif flaenoriaethau wrth ddechrau unrhyw gynhyrchiad newydd, cyrchu deunyddiau mewn ffordd gynaliadwy, ac ailgylchu a darganfod ffyrdd newydd o ddefnyddio darnau o set, props a gwisgoedd. Ry’n ni’n falch o rannu bod ein cynyrchiadau teithiol Tylwyth (2022) a Pijin | Pigeon (2023) wedi cyrraedd gwaelodlin safonau’r Llyfr Gwyrdd.   
  • Ry’n ni wedi symud cartref ein cwmni i'r Egin yng Nghaerfyrddin, adeilad sydd wedi derbyn tystysgrif BREEAM Excellent dros gynaliadwyedd.   
  • Ry’n cynnig patrwm gwaith hyblyg er mwyn sicrhau bod effaith carbon ein tîm craidd mor isel â phosib. Pan mae angen teithio, ry’n ni’n rhannu trafnidiaeth, neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle’n bosib, ac yn cynllunio ein teithiau yn effeithlon 
  • Ry’n ni bellach yn gweithredu fel swyddfa di-bapur, wrth gyflawni gwaith gweinyddol a chyllidol trwy lwyfannau cwmwl a lleihau gwastraff  
  • Ry’n ni wedi lleihau ein marchnata print yn sylweddol ac wedi cyflwyno mwy o adnoddau digidol am ddim i'n cynulleidfaoedd  
  • Ry’n ni’n gweithio gydag ymgynghorydd amgylcheddol sy’n ein cynghori ar hyd ein siwrne tuag at gyflawni sero net a’n cadw ar y trywydd cywir  
  • Byddwn yn defnyddio’r ‘Creative Green Tools’ wedi’u datblygu gan Julie’s Bicycle (juliesbicycle.com/) ar gyfer diwydiannau celfyddydol a diwylliannol i lywio ein strategaeth amgylcheddol a’n blaenoriaethau sefydliadol. 

Ein prosiectau creadigol nesaf  

Mae ein hymrwymiad at fynd i‘r afael â’r argyfwng hinsawdd yn mynd ymhell tu hwnt ein prosesau creadigol a gweinyddol. Ry’n ni hefyd yn sparduno sgyrsiau creadigol ac yn hwyluso cyfleoedd i artistiaid archwilio effaith yr argyfwng hinsawdd ar fywyd yng Nghymru trwy’r gyfrwng y Gymraeg.

Prosiect 40°C

Mae Prosiect 40°C yn brosiect hirdymor ac uchelgeisiol sy’n ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Wrth i ni frwydro am blaned well i genedlaethau’r dyfodol, mae’n rhaid i ni herio’r hen ffyrdd o ymateb i drychinebau byd natur. Mae’n rhaid i ni edrych y tu hwnt i’r brif ffrwd, gan wreiddio ein  syniadau yng ngwirioneddau cyfoes Cymru - yn ein tir a’n cymunedau amrywiol.

Y cwestiwn mawr? Sut gall cyfrwng theatr byw ehangu ein dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd, i’w deall nid fel rhywbeth sy’n bodoli mewn gwlad neu oes bell, ond fel rhan annatod o fywyd yng Nghymru heddiw?

Mwy

Popeth Ar y Ddaear

Am y tro cynta’ erioed - ac am un noson yn unig - bydd Maes B yn cael ei drawsnewid yn lwyfan theatr byw.

Bydd y cynhyrchiad Popeth ar y Ddaear yn gwahodd cynulleidfa i gamu mewn i fyd yn y dyfodol agos ble mae trychineb catastroffig wedi boddi cymunedau.

Cynhyrchiad Frân Wen ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Phrifysgol De Cymru.

Mwy

Byddwn yn eich diweddaru wrth i ni geisio cyrraedd ein nod o sero net. Os hoffech fwy o wybodaeth am ein hymrwymiad tuag at gynaliadwyedd neu i rannu eich syniadau ar sut y gallwn ni wella’n ymdrechion, cysylltwch â ni.