Ar ôl swyno cynulleidfaoedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, ry’n ni’n falch o gyhoeddi bod Yr Hogyn Pren ar y ffordd i Ŵyl Agor Drysau, sef gŵyl theatr ryngwladol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.
Mae’r Hogyn Pren yn gynhyrchiad arbennig i blant a theuluoedd, sy’n cyfuno pypedwaith grefftus gyda stori afaelgar a cherddoriaeth hudolus. Wedi’i gyfarwyddo gan Steffan Donnelly, bydd Owain Gwynn yn dychwelyd i’r Tîm Creadigol fel Cyfarwyddwr Pypedau ac i’r cast fel pypedwr. Bydd Rhian Blythe yn ymuno â’r cast fel cymeriad Y Fam, ochr yn ochr â’r pypedwyr Fred Davis a Chris Milford.
Broc, y pyped hyfryd, sy’n galon i’r cynhyrchiad. Datblygwyd y pyped eco-gyfeillgar yma gyda chwmni clodfawr Theatr Byd Bychan ac – i gyd-fynd gyda stori’r darn – mae wedi’i greu o froc môr. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys sain a cherddoriaeth hudolus gan Lisa Jên Brown a Martin Hoyland, gyda sgript wreiddiol gan yr awdur Elidir Jones. Luned Gwawr sy’n arwain ar y gwisgoedd.
Wedi’i drefnu gan Gwmni Theatr Arad Goch, mae Gŵyl Agor Drysau yn rhoi’r cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru weld rhai o gynyrchiadau theatr gorau’r byd yn ogystal â rhoi cyfle i raglenwyr a chynhyrchwyr rhyngwladol brofi cyfoeth celfyddydau perfformio Cymru. Mae’r ŵyl yn cynnwys perfformiadau, gweithdai a sgyrsiau yn nhref Aberystwyth ac mewn theatrau ledled Cymru.
Bydd perfformiadau Yr Hogyn Pren yn digwydd ar bromenâd Aberystwyth ac yng Nghanolfan y Celfyddydau, yn ogystal â pherfformiadau mewn ysgolion.
Newyddion + blogiau diweddaraf
-
22/10/2024 BlogEdrych nôl ar Fy Enw i yw Rachel Corrie
Diolch i’r holl artistiaid a llawryddion sydd wedi bod yn rhan o’r cynhyrchiad a’r holl gynulleidfaoedd sydd wedi dod i wylio.
-
21/10/2024 NewyddionEnillwyr Gwobr UK Theatre am Ragoriaeth Mewn Teithio
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ei bod wedi ennill Gwobr UK Theatre am Ragoriaeth Mewn Teithio ar gyfer taith Parti Priodas eleni.