Newyddion 11/07/2023

Theatr Gen yn yr Eisteddfod Genedlaethol: Cyhoeddi’r Artistiaid a’r Timoedd Creadigol

Four images in a rectangle. Main image for Yr Hogyn Pren shows a lino print with a wood pattern, of a short figure standing in a woodland scene. Next to this is the title treatment for Rwan Nawr. At the bottom there is the image for Rhyngom showing two arms reaching for each other, and the Parti Priodas image which shows a wedding cake with two figures on top.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi dod â rhai o artistiaid, actorion a phobl creadigol mwyaf blaenllaw Cymru at ei gilydd ar gyfer eu harlwy yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Bydd y cwmni yn glanio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda 4 cynhyrchiad a’r sgwennu newydd mwyaf ffres yn y Gymraeg, gan ddod â gwaith theatr i 6 lleoliad gwahanol ar hyd y maes. O briodas yn Llŷn i sioe i blant; bydd rhywbeth at ddant pawb.

Yng Nghaffi Maes B, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno Parti Priodas gan y dramodydd a’r brifardd Gruffudd Owen. Dyma ddrama gomedi wedi’i gosod yn nunlle llai na Phen Llŷn! Dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Steffan Donnelly, dau o frodorion yr ardal fydd yn dod â’r ddrama arbennig hon yn fyw. Yn adnabyddus fel sgwennwr a dramodydd, Mared Llywelyn (Cwmni Tebot) fydd yn serennu fel Lowri, tra bydd Mark Henry-Davies (Of Mice and Men, Theatr y Torch; The Way, BBC) yn ymuno fel Idris. Bydd y ddau hefyd yn chwarae amryw o gymeriadau eraill. Mae’r cwmni yn falch o gydweithio gyda’r Cynllunydd Set a Gwisgoedd Luned Gwawr unwaith eto, ac i groesawu’r berfformwraig a’r amlddisgyblaethol Cêt Haf atom ni fel Cyfarwyddwr Symud. Yr hynod dalentog Sam Humphreys fydd yn ymuno fel Cyfansoddwr, yn dychwelyd i weithio gyda’r cwmni ar ôl perfformio a chyfansoddi cerddoriaeth Gwlad yr Asyn yn 2021 a 2022.

Bydd y cwmni hefyd yn cyflwyno Yr Hogyn Pren, sef cynhyrchiad arbennig i blant a theuluoedd fydd yn crwydro’r maes. Pleser yw cael gweithio gyda’r actor, pypedwr a’r cyfarwyddwr ymladd Owain Gwynn (Life of Pi, Sheffield Crucible/West End; War Horse, National Theatre; Gangs of London, Sky) ar y darn arbennig hwn fel Cyfarwyddwr Pypedau. Bydd y cyfarwyddwr a’r dramodydd Melangell Dolma hefyd yn ymuno fel Cyfarwyddwr a Luned Gwawr fydd eto’n arwain ar y gwisgoedd. Mae’r tîm wedi bod wrthi’n datblygu pyped eco-gyfeillgar arbennig gyda chwmni Theatr Byd Bychan, ac yn edrych ymlaen i gyflwyno’r cymeriad hwn i gynulleidfaoedd gydag Owain a’r pypedwyr eraill Bettrys Jones (War Horse, National Theatre; Midsummer Night’s Dream, RSC) a Rebecca Killick (War Horse, National Theatre; Life of Pi Dyma berfformiad fydd yn cymysgu pypedwaith a theatr, gyda’r actor Heledd Gwynn yn ymddangos fel Y Fam gyda sgript wreiddiol gan yr awdur Trwy sain a cherddoriaeth wreiddiol, bydd dau aelod o’r band 9Bach, Lisa Jên Brown a Martin Hoyland, yn ein helpu i ymgolli’n llwyr ym myd Yr Hogyn Pren gyda phrofiad clywedol hudolus.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru hefyd wedi bod yn falch o weithio gyda’r awdur lleol Sioned Erin Hughes ar addasiad i‘r llwyfan o ddwy fonolog o’r cyfrol bwerus Rhyngom a enillodd y Fedal Ryddiaeth y llynedd. Bydd cyfle i weld y ddwy fonolog yn cael eu perfformio fel monologau ar lwyfan y Babell Lên mewn addasiad arbennig dan gyfarwyddyd yr artist a chyfarwyddwr Iola Ynyr. Lois Elenid Jones (Craith/Hidden, Rownd a Rownd, S4C) sy’n perfformio Er Fy Mwyn Fy Hun a Joseff Owen (Y Gwyll/Hinterland, Stad, S4C) fydd yn perfformio Adferiad. Yn dilyn y perfformiad, bydd cyfle i fwynhau sgwrs rhwng Esyllt Maelor a’r awdur lle byddent yn trafod y gwaith a phrofiad Erin o’i addasu i’r llwyfan.

Mae’r cwmni yn credu’n gryf mewn creu gwaith pwerus sy’n amserol ac sy’n ymateb i’r byd o’n cwmpas, a dyma’r ysbrydoliaeth ar gyfer Rwan Nawr; cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Clwyd. Mae’r ddau gwmni wedi dod â rhai o’r lleisiau mwyaf cyffrous yng Nghymru heddiw at ei gilydd i greu sioe gyffrous ar ffurf papur newydd byw. Dyma gyfle i weld gwaith newydd hollol gyfoes gan Hannah Daniel, Manon Steffan Ros, Mali Ann Rees, Llŷr Titus a Kallum Weyman. Bydd y dramodwyr yn cael eu hysbrydoli gan bynciau llosg y cyfryngau cyfredol wrth ddatblygu eu dramâu byrion, a bydd y gwaith terfynol yn cael ei berfformio yn y Cwt Cabaret gan Lowri Gwynne (Fala Surion, Frân Wen; Rownd a Rownd, S4C), Caitlin Drake (The Brief & Frightening Reign of Phil, National Theatre; Truth or Dare, Theatr Clwyd), Dewi Wykes (Petula, Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales a August 012; The Famous Five Musical, Chichester Festival Theatre a Theatr Clwyd), Kieran Bailey (Operation Julie, Theatr na nÓg; Casualty, BBC), Leilah Hughes (In My Skin, BBC; Anthem, Canolfan Mileniwm Cymru) a Dion Davies (Under Milk Wood; Torchwood, BBC). Yn cyfarwyddo’r cwbwl fydd Rhian Blythe a Daniel Lloyd, gyda Livia Jones yn ymuno â’r tîm fel Cynllunydd a Geraint Rhys fydd yn cyfansoddi’r gerddoriaeth.

Wrth baratoi i ddechrau ymarferion ar gyfer cynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, meddai Steffan Donnelly:

“Mae’r Eisteddfod yn un o uchafbwyntiau calendr tîm Theatr Gen, ac mae cyffro mawr yn y swyddfa wrth i ni baratoi i berfformio 4 cynhyrchiad ar hyd 6 lleoliad gwahanol eleni! Mae’n fraint i gael dod â darnau cyffrous o theatr i ardaloedd newydd ar y maes, a thrwy hynny cyrraedd cynulleidfaoedd newydd sydd efallai heb weld ein gwaith o’r blaen. Mae’n brofiad anhygoel i gydweithio gyda chymaint o artistiaid, actorion a sgwennwyr talentog i ddod â gwledd o raglen at ei gilydd ar gyfer yr wythnos. Dw i wir methu aros i’ch gweld chi yn y ‘Steddfod a dwi’n gobeithio’n fawr y byddwch chi’n mwynhau yr holl sioeau sydd gennym ni i’w cynnig!”

Mae’r cwmni newydd lansio ei raglen hyd at gwanwyn 2024, sef y rhaglen gyntaf o dan arweiniad artistig Steffan. Mae’r rhaglen uchelgeisiol hon yn cynnwys 8 cynhyrchiad, 3 ohonynt yn deithiau cenedlaethol. Yn ogystal â chynyrchiadau lu yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, bydd addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o’r ddrama Rhinoseros gan Eugène Ionesco, sioe newydd i blant ifanc gyda Krystal S. Lowe - Swyn, a darn sydd wedi’i greu gan bobl ifanc i bobl ifanc gyda’r cynhyrchiad Ie Ie Ie dan arweiniad Juliette Manon. Ochr yn ochr â’r cynyrchiadau, mae’r cwmni hefyd yn cyflwyno nifer o brosiectau hirdymor sy’n cynnwys Prosiect 40°C sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac Ar y Dibyn sy’n cynnig cyfleoedd creadigol i rai sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth. Mae’r cwmni hefyd yn dod â’r prosiect creadigol Criw Creu yn ôl yn 2024, gan weithio gyda grŵp o Droseddwyr Ifanc o Garchar y Parc ger Penybont-ar-Ogwr, ac mae’r Clwb Drama ar y cyd â Menter Gorllewin Sir Gâr hefyd yn parhau.

Am ymholiadau’r wasg, cysylltwch â Ceri Williams, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu Theatr Genedlaethol Cymru. ceri.williams@theatr.com | +44 (0)1267 245 617 | +44 (0)7903 842 617