Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn arbennig i ni yn Theatr Genedlaethol Cymru - ac yn ddiweddglo gwych i’r flwyddyn, ry'n ni wedi ein henwebu ar gyfer gwobr Cynhyrchydd y Flwyddyn gan The Stage. Dyma'r tro cyntaf i gwmni iaith Gymraeg gael ei enwebu fel rhan o’r gwobrau.
Ers lansio yn 2010, mae Gwobrau The Stage yn cydnabod llwyddiannau cwmnïau theatr ac unigolion ledled y DU ac yn fyd-eang. Wrth gyhoeddi enwebiad Theatr Gen fel Cynhyrchydd y Flwyddyn, cyfeiriodd The Stage at ymrwymiad y cwmni i sicrhau bod theatr cyfrwng Cymraeg yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn gynaliadwy.
Rhestrwyd ein cynhyrchiad o Rhinoseros gan Eugene Ionesco gan The Stage fel un o 50 cynhyrchiad gorau 2023. Mae Rhinoseros hefyd wedi cyrraedd clodrestr Wales Arts Review eleni, ochr yn ochr â Pijin | Pigeon, cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Iolo o nofel arobryn Alys Conran, a gyflwynwyd yn y gwanwyn. Yn ogystal, mae’r cynyrchiadau Rhinoseros a Swyn wedi’u dewis ym mhigion celfyddydol y flwyddyn yng nghylchgrawn Golwg.
Daw'r newyddion yma ar ddiwedd blwyddyn lwyddiannus i'r cwmni, sydd wedi cyrraedd mwy na 20,000 o bobl eleni trwy brosiectau a chynyrchiadau. Yn ystod 2023 ry'n ni wedi cyflwyno 3 taith genedlaethol, a 5 perfformiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol gyda mwy na 50 o lawryddion - yn ogystal â darparu amrywiaeth o gyfleoedd creadigol trwy brosiectau cyfranogi fel Ar y Dibyn a Criw Creu, a lansio prosiect hirdymor i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, Prosiect 40°C.
Dywedodd ein Cyfarwyddwr Artistig, Steffan Donnelly:
“Mae’r gydnabyddiaeth yma gan The Stage yn newyddion gwych wrth edrych yn ôl ar flwyddyn llwyddiannus iawn i Theatr Gen. Mae’n ddathliad o’n arlwy amrywiol eleni a gwaith arbennig y tîm a channoedd o artistiaid a llawryddion anhygoel Cymru. Mae bod ar yr un rhestr a rhai o fy hoff greuwyr theatr yn anrhydedd.”
Dywedodd ein Cyfarwyddwr Gweithredol, Angharad Jones Leefe:
“Mae’n fraint i gael ein henwebu am y wobr hon ac yn gydnabyddiaeth bwysig o’r holl waith sy’n cael ei gyflawni gan ein tîm arbennig, a’r holl weithwyr llawrydd ry’n ni mor ffodus o gael gweithio gyda nhw. Mae hefyd yn wych i weld theatr iaith Gymraeg yn cael ei anrhydeddu ar lwyfan Prydeinig.”
Cyhoeddir enillydd Cynhyrchydd y Flwyddyn yn ystod y seremoni wobryo ar 29 Ionawr 2024 yn Theatre Royal Drury Lane, Llundain.