Golygfeydd o'r Pla Du

Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr. Comedi direidus, tywyll am argyfwng a llygredd gan Chris Harris. Croeso i'r Pla Du - does dim byd mwy doniol.

Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr, wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth gan Theatr Genedlaethol Cymru.

1348, Pentreufargirec. Mae anhrefn newydd wedi dod – y Pla. Mae Duw wedi bradychu'r bobl ac mae gwallgofrwydd o bwyntio bys, hela cathod a llosgi hereticiaid wedi boddi'r pentref yn y toiled. I Twm y twyllwr, mae popeth yn gêm. Tra bod pobl yn marw, mae 'na ysgol gymdeithasol i'w ddringo. Ond o dan reolaeth Casglwr Trethi sy'n chwilio am gariad a gwerthwr tail chwyldroadol sy'n annog meddwl agored ymhlith y werin, mae Twm yn sylweddoli bod gan rym lawer o rwystrau.

Comedi ddireidus, tywyll am argyfwng a llygredd wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Chris Harris. Croeso i'r Pla Du - does dim byd mwy doniol.

Cynhyrchiad Cymraeg yw 'Golygfeydd o'r Pla Du', sy'n addas i blant dros 14 oed (mae'n cynnwys iaith gref, themâu ynghylch marwolaeth, salwch, sefyllfaoedd gwaedlyd, hiwmor sarcastig a phypedau fflwfflyd iawn). Bydd Sibrwd, ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru, ar gael ym mhob perfformiad.

Sibrwd

Ym mhob perfformiad, bydd Sibrwd – ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru – ar gael i dywys y gynulleidfa trwy’r stori, pa mor rhugl bynnag ydynt yn Gymraeg. Trwy gapsiynau sy'n ymddangos ar ffôn y defnyddiwr, mae’r ap yn cyfleu yn Saesneg yr hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan. Mae ar gael i aelodau’r gynulleidfa ei ddefnyddio ar eu ffonau eu hunain am ddim.

Dyddiadau’r Daith

Cast

Iwan Charles

Anni Dafydd 

Alis Wyn Davies

Berwyn Pearce 

Tîm Creadigol

Awdur a Chyfarwyddwr Chris Harris
Dylunydd Luned Gwawr Evans
Cyfansoddwr Lynwen Haf Roberts
Cynhyrchwyr Ffion Glyn & Sharon Casey
Marchnata Kate Boucher & Heulwen Davies
Dylunio Delweddau Matilda Southcott