Galwad agored am hwyluswyr

Ry’ ni bob amser yn chwilio am hwyluswyr i gefnogi ein gwaith cyfranogol ar draws bob cwr o Gymru, ac os ydych yn 18+ a diddordeb gennych glywed mwy am ein gwaith ni, a chydweithio a ni, byddwn i wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Mae’r gwaith yn amrywio o Clwb Theatr Cymru, i glybiau drama led led Cymru, i waith mewn ysgolion gyda Chlwb Creu, i waith yn cefnogi datblygu cynulleidfa ar gyfer cynyrchiadau fel Tylwyth a Pijin, cyflwyno sesiynau sgiliau dylunio gydag athrawon a disgyblion, hwyluso sesiynau ar lein a chyn sioe gyda dysgwyr i gefnogi gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a’r pecynnau cenedlaethol sy’n cyd-fynd a’n cynyrchiadau, cefnogi ein gwaith gyda’n Hymgynghorwyr Ifanc, a chefnogi prosiectau iechyd a lles cenedlaethol fel Ar Y Dibyn. 

Ry ni’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn awyddus hefyd i gydweithio gyda Hwyluswyr i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith, felly peidiwch a gadael diffyg hyder neu diffyg arfer siarad Cymraeg eich atal rhag mynegu diddordeb. 

Ffi ac ymrwymiad amser 

Ry’ ni’n talu £30 yr awr am sesiwn neu ffi ddyddiol o £175, ynghyd a chostau teithio. 

Sut mae mynegu diddordeb? 

Llenwch y ffurflen hon neu ddanfonwch fideo atom ni yn ateb y cwestiynau at sian.elin@theatr.com, neu voice note drwy WhatsApp at 07813539832:

  • Rhannwch eich profiadau o weithio mewn digwyddiadau / clybiau cymunedol a’r sefydliadau neu’r llefydd yr ydych wedi gweithio ynddynt 
  • Disgrifiwch eich sgiliau perthnasol  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu a Sian Elin.