Ganwyd Theatr Cymru (neu Theatr Genedlaethol Cymru ar y pryd) yn ystod cyfnod cyffrous yn hanes ein gwlad, dim ond pedair blynedd ar ôl sefydlu Senedd Cymru a chychwyn cyfnod newydd o ddatganoli. Ar y pryd roedd ein hunaniaeth fel Cymry yn bwnc trafod ledled y wlad ac roedd yr awch i wireddu breuddwyd hirhoedlog o greu theatr genedlaethol iaith Gymraeg yn fyw.
Sefydlwyd y cwmni ym mis Mawrth 2003, trwy grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a hynny mewn lleoliad dros dro yng Nghaerfyrddin gyda phum aelod o staff llawn amser a chwmni o bedwar actor.
Bu trafodaeth frwd am genhadaeth y cwmni. A ddylai theatr genedlaethol fod mewn un man sefydlog? Beth fyddai arlwy’r cwmni? O’r cychwyn cyntaf roedd un peth yn glir – mai nod y cwmni fyddai teithio, a mynd â theatr Gymraeg ei hiaith i galon cymunedau ledled Cymru, gan ddathlu ein hunaniaeth a’n hiaith yn ei holl amrywiaeth.
Cefin Roberts oedd y cyntaf wrth y llyw fel Cyfarwyddwr Artistig (2003-2011) – a’r ddrama Yn Debyg Iawn i Ti a Fi gan y diweddar Meic Povey oedd y gyntaf i’w llwyfannu ym mis Ebrill 2004.
Yn 2008, llwyfannwyd y cynhyrchiad epig Iesu! gan Aled Jones Williams gyda Fflur Medi Owen yn serennu. Gyda merch yn y brif ran wrywaidd, dyma gychwyn ar dorri tir newydd a herio disgwyliadau ein cynulleidfa. Yn yr un flwyddyn, ymgartrefodd y cwmni yn Y Llwyfan, Caerfyrddin. Roedd y Llwyfan yn rhan bwysig o’n siwrnai. Roedd yr ystafell ymarfer yn gartref dros dro i sawl cast a chriw, yn fan cychwyn i nifer o syniadau yn ogystal â llwyfan i gannoedd o blant lleol fyddai’n mwynhau clybiau drama gyda ni.
Yn 2011, fe benodwyd Arwel Gruffydd yn Gyfarwyddwr Artistig (2011-2022).Yn yr un flwyddyn, teithiodd Llwyth gan Daf James, ein cyd-gynhyrchiad gyda Theatr y Sherman, i Ŵyl Ymylol Caeredin – cynhyrchiad cyntaf y cwmni i ymddangos yn yr ŵyl theatr fyd-enwog. Yn chwa o awyr iach a chyfle i roi llwyfan i leisiau a straeon sydd heb gael eu cynrychioli yn aml yn y theatr Gymraeg, cyflwynodd Llwyth stori grŵp o ffrindiau hoyw yn byw yng Nghaerdydd.
Yn unol â’n nod o ddod â theatr i’r bobl, a bod unrhyw le yn llwyfan posib, daeth strydoedd Aberystwyth yn theatr i ni yn 2013 ar gyfer ein cynhyrchiad epig undydd, Y Bont. Dyma gynhyrchiad i nodi hanner can mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith lle cafwyd torfeydd o bobl ifanc yn galw am statws cyfartal i’r Gymraeg. Roedd e’n gynhyrchiad aml-haenog gyda ffilmiau byrion, blogiau, archif a theatr y stryd - gyda 500 o bobl yn ail-greu’r brotest dyngedfennol honno o 1963.
Ar ôl llwyddiant Y Bont, aeth ein theatr safle benodol o nerth i nerth. Perfformiwyd Blodeuwedd yn yr heulwen braf ar Domen y Mur, Trawsfynydd, yn 2014 i gynulleidfa ar gerdded. Morfydd Clark oedd yn chwarae’r brif ran, a dyma gychwyn ar yrfa ddisglair sydd wedi mynd â Morfydd i uchelfannau’r byd teledu a ffilm.
Perfformiwyd addasiad y diweddar Gwyn Thomas o Macbeth hefyd ar leoliad yng Nghastell Caerffili ym mis Chwefror 2017. Fe’i darlledwyd i 14 o sinemâu yn fyw ar un noson fythgofiadwy. Cefnogwyd y cynhyrchiad gan gast cymunedol arbennig o’r ardal leol, fel y gwnaed hefyd gyda chast cymunedol dawnus ein cynhyrchiad Chwalfa nôl yn 2016.
Wrth i’r cwmni fynd o nerth i nerth, tyfodd ein cynulleidfa, ac yn 2015 lansiwyd Sibrwd, yr ap mynediad iaith arloesol, sydd wedi agor byd o theatr Gymraeg i fwy o bobl.
Fel Y Bont gynt, roedd Nyrsys, ein sioe gerdd gair-am-air yn 2018, yn nodi achlysur arbennig. Yn ystod y flwyddyn honno, dathlwyd 70 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac roedd hi’n fraint cael bod yn rhan o’r sgwrs genedlaethol i ddathlu’r unigolion anhygoel hynny sy’n achub bywydau a chynnal sefydliad amhrisiadwy. Daeth iechyd a lles hefyd yn ganolbwynt i waith cyfranogi'r cwmni yn 2019, gyda lansiad y prosiect hirdymor Ar y Dibyn, ar y cyd ag Iola Ynyr ac amrywiaeth o bartneriaid, i gefnogi rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth. Hyd yma, mae’n cyfranogwyr wedi datblygu gwaith ysgrifenedig, gwaith celf ac wedi gweithio ar gynhyrchu ffilm arbennig; oll yn seiliedig ar eu profiadau a’u teimladau personol nhw.
Yn 2020, fel pawb arall, fe wynebodd y cwmni gyfnod heriol tu hwnt. Wrth i Tylwyth – dilyniant i Llwyth – agor yn Theatr y Sherman i ganmoliaeth ysgubol, fe dorrodd newyddion rhyngwladol bod feirws peryglus yn byw yn ein plith a bod mesurau digynsail yn cael eu gosod i’n diogelu. Yn sgil pandemig Covid-19 a’r cyfnodau clo, roedd gofyn i ni ailystyried ein gwaith a symud ein cynyrchiadau i’r sgrin. Fe grëwyd 8 darn newydd o waith digidol, yn cynnwys 3 pherfformiad byw, gan hefyd ryddhau 9 ffilm o'n harchif a chynnal 132 o sgyrsiau a sesiynau cyfranogi. Cafodd y gwaith hwn dros 78,000 o wyliadau.
Wrth i gyfyngiadau lacio, aethom ar ein taith gyntaf ar ôl y cyfnod clo i leoliadau awyr agored gyda Gwlad yr Asyn. Yn hydref 2021, cawsom ymweld â theatrau Cymru unwaith eto gydag Anfamol – drama un fenyw am fam sengl. Profodd y cynhyrchiad hwn yn boblogaidd iawn gyda chynulleidfaoedd, ac mae’r ddrama bellach wedi datblygu’n gyfres deledu gyda S4C.
Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi cofleidio clasuron y theatr Gymraeg a gwaith arbrofol newydd sbon, ac wedi cyflwyno’r cyfan ar lwyfannau traddodiadol ac mewn lleoliadau annisgwyl. Gyda Steffan Donnelly yn arwain fel Cyfarwyddwr Artistig ers 2022, ochr yn ochr â’i Gyd-Brif Weithredwr Angharad Jones Leefe, a chartref newydd i’r cwmni yn yr Egin, mae oes newydd yn gwawrio - ac enw newydd i'r cwmni hefyd.
Ymlaen â ni at anturiaethau’r ugain mlynedd nesaf. Dewch gyda ni!