Y Fenyw Ddaeth o'r Môr

Yn ferch i geidwad goleudy, mae Elida’n ysu am ryddid y môr. Er mor garedig yw ei gŵr, mae ei phriodas fel cawell amdani, y mynyddoedd yn cau o’i chwmpas, a hithau’n arnofio ym merddwr ei bywyd braf.

Y Fenyw Ddaeth o'r Môr

Yn ferch i geidwad goleudy, mae Elida’n ysu am ryddid y môr. Er mor garedig yw ei gŵr, mae ei phriodas fel cawell amdani, y mynyddoedd yn cau o’i chwmpas, a hithau’n arnofio ym merddwr ei bywyd braf. Mae ymweliad rhyw ddieithryn yn corddi’r dyfroedd.  Ond ai dieithryn yw ef mewn gwirionedd? Wrth iddi ddod wyneb yn wyneb â’r gorffennol cythryblus, yn sydyn rhaid gwneud y penderfyniad anoddaf un… aros neu ffoi?

Dyma stori garu fwyaf cyffrous Henrik Ibsen wedi ei chyfieithu i’r Gymraeg am y tro cyntaf erioed gan Menna Elfyn.

Teithiwyd y ddrama ym mis Mawrth 2015

Cast

Elida Wangel: Heledd Gwynn
Dr Wangel: Dewi Rhys Williams
Bolette: Elin Llwyd
Hilde: Sian Davies
Arnholm: Richard Elis
Lyngstrand: Sion Alun Davies
Ballestad: Seiriol Tomos
Y Dieithryn: Siôn Ifan

Tîm Creadigol

Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd
Cyd-Gynllunwyr: Max Jones, Ruth Hall
Cynllunydd Goleuo: Ceri James
Cyfansoddwr: Dan Lawrence
Cynllunydd Sain: Matt Jones

bwrdd
merch
merched
paent
cusan