Mae hi ‘di bod yn chwe mis ers i mi ddechrau fy swydd newydd fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Gen. 6 MIS. Lle mae amser yn mynd? Eniwe, dwi ‘di bachu ar y cyfle i sgwennu blog cyn ‘Dolig i sôn am ein gwaith ers i mi ddechrau, a’ch gwahodd i ddod i gael sgwrs efo fi a’r tîm yn y flwyddyn newydd.
Mae hi ‘di bod yn gyfnod prysur efo fi’n cyfarwyddo Gwlad yr Asyn yn yr Eisteddfod eleni, Tylwyth gan Daf James ar daith, ac rydyn ni wrthi’n paratoi i fynd mewn i ymarferion ar gyfer ein cynhyrchiad nesaf - Pijin, addasiad Bethan Marlow o nofel Alys Conran. Rydyn ni hefyd wedi bod yn creu efo disgyblion ysgol, hwyluso gweithdai i gydfynd efo sioe am fywyd Betty Campbell, rhedeg clybiau drama, paratoi ar gyfer cyfnod nesaf ein prosiect iechyd a lles Ar y Dibyn, a darparu gweithdai i athrawon efo ein ‘roadshow’ CBAC diweddar.
Ar lefel bersonol, dwi ‘di symud nôl i fyw i Gymru ar ôl degawd yn Llundain, dod i ‘nabod pawb yma yn Theatr Gen, a dysgu bod ‘na lot o deithio efo’r swydd! Fel cwmni cenedlaethol mae ein gwaith yn digwydd ar draws y wlad, a dwi ‘di bod o Gaernarfon i Gaerfyrddin i Gaerdydd yn cyfarfod cynulleidfaoedd, artistiaid, a staff canolfannau a chwmnïau theatr… a dod i garu bysus a trenau Cymru!
…A trenau Ffrainc, gan ein bod yn archwilio ffyrdd o gydweithio yn greadigol efo cwmnïau ieithoedd lleiafrifedig Ewrop.
Mae datblygu gwaith newydd yn ran mawr o’r swydd. Dros y misoedd diwethaf dwi ‘di mwynhau bod mewn stafelloedd efo artistiaid anhygoel yn dyfeisio, hwyluso cydweithio, a chomisiynu sgwennwyr. Rydym yn edrych ymlaen i rannu ffrwyth y gwaith yma efo’n cynulleidfaoedd yn y dyfodol agos.
Mae’r swydd hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau dros gyfeiriad y cwmni ac adrodd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Dyma gyfle perffaith i dynnu eich sylw at y ffaith ein bod yn edrych am Gadeirydd a dau ymddiriedolwr newydd i’n Bwrdd – falle eich bod chi neu rywun dachi’n ‘nabod efo diddordeb? Mae mwy o wybodaeth yma.
Mae’n bwysig bod Theatr Gen yn theatr sy’n atebol ac yn esblygu, sy’n blatfform i leisiau’r genedl rannu, diddanu, a chwestiynu. Mae lle i ni ymateb i ddigwyddiadau o’n cwmpas ac ar draws y byd. Mae hefyd yn bwysig bod y drws yn agored i ni glywed syniadau newydd, sgwrsio efo gweithwyr llawrydd celfyddydol, a chysylltu efo unrhyw un efo diddordeb mewn creu yn y Gymraeg.
Y bwriad dros tri mis cyntaf y flwyddyn ydi cynnal sesiynau agored i unrhyw un hoffai drafod syniadau, gyrfa, a be sydd i ddod gan Theatr Gen. Fydda i a’r tîm yn mynd ar daith i bedwar lleoliad (ac hefyd ar gael ar Zoom) i gael sgyrsiau anffurfiol. Mae mwy o fanylion am sut i gofrestru ar y botwm isod.
Joiwch y gwyliau a gobeithio welai chi yn Pijin neu un o’r sesiynau agored!
Steffan