Blog 14/12/2022

Chwe Mis fel Cyfarwyddwr Artistig

Man sits with his elbow on the table. He rests his head on his palm. He is sat opposite two people who have their back to the camera, we can see the back of their heads. He is looking directly at one of them, and has a faint smile on his face. On the table in front of him there is an open script, a water bottle, coffee cup.

Mae hi ‘di bod yn chwe mis ers i mi ddechrau fy swydd newydd fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Gen. 6 MIS. Lle mae amser yn mynd? Eniwe, dwi ‘di bachu ar y cyfle i sgwennu blog cyn ‘Dolig i sôn am ein gwaith ers i mi ddechrau, a’ch gwahodd i ddod i gael sgwrs efo fi a’r tîm yn y flwyddyn newydd. 

Mae hi ‘di bod yn gyfnod prysur efo fi’n cyfarwyddo Gwlad yr Asyn yn yr Eisteddfod eleni, Tylwyth gan Daf James ar daith, ac rydyn ni wrthi’n paratoi i fynd mewn i ymarferion ar gyfer ein cynhyrchiad nesaf - Pijin, addasiad Bethan Marlow o nofel Alys Conran. Rydyn ni hefyd wedi bod yn creu efo disgyblion ysgol, hwyluso gweithdai i gydfynd efo sioe am fywyd Betty Campbell, rhedeg clybiau drama, paratoi ar gyfer cyfnod nesaf ein prosiect iechyd a lles Ar y Dibyn, a darparu gweithdai i athrawon efo ein ‘roadshow’ CBAC diweddar.

A woman dressed in grey sits in a small wooden cart. She is singing. Two musicians are in the background - a man with a guitar and a woman singing and playing keyboard.
A man holding a glass and looking down stands in the foreground. Three other men are sat in the background talking.
Two young pupils in school uniform and a young woman in formal clothing are sitting on the floor of a classroom. There are pieces of paper and craft supplies on the floor around them. Two are staring down at a piece of work one of the pupils has created, and one is cutting a shape from paper using scissors.
4 people are sat down at a table. There is a man stood leaning over them pointing towards a laptop screen in front of them. They are all looking towards the laptop screen. On the table there are various materials scattered and pieces of colourful paper cut up.

Ar lefel bersonol, dwi ‘di symud nôl i fyw i Gymru ar ôl degawd yn Llundain, dod i ‘nabod pawb yma yn Theatr Gen, a dysgu bod ‘na lot o deithio efo’r swydd! Fel cwmni cenedlaethol mae ein gwaith yn digwydd ar draws y wlad, a dwi ‘di bod o Gaernarfon i Gaerfyrddin i Gaerdydd yn cyfarfod cynulleidfaoedd, artistiaid, a staff canolfannau a chwmnïau theatr… a dod i garu bysus a trenau Cymru! 

…A trenau Ffrainc, gan ein bod yn archwilio ffyrdd o gydweithio yn greadigol efo cwmnïau ieithoedd lleiafrifedig Ewrop. 

Mae datblygu gwaith newydd yn ran mawr o’r swydd. Dros y misoedd diwethaf dwi ‘di mwynhau bod mewn stafelloedd efo artistiaid anhygoel yn dyfeisio, hwyluso cydweithio, a chomisiynu sgwennwyr. Rydym yn edrych ymlaen i rannu ffrwyth y gwaith yma efo’n cynulleidfaoedd yn y dyfodol agos. 

A room full of young people sat around a table. They are a mix of men and women. On the table there are scripts, water bottles, coffee cups and various other pieces of paper. Many of them are smiling and looking at one of the people who is reading something on his phone.
4 people sat a table. We see 3 men sitting next to each to each other, and the back of one woman's head who is facing away from the camera. The men are dressed informally and are all looking at the same point off camera. There is paper on the table in front of them.

Mae’r swydd hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau dros gyfeiriad y cwmni ac adrodd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Dyma gyfle perffaith i dynnu eich sylw at y ffaith ein bod yn edrych am Gadeirydd a dau ymddiriedolwr newydd i’n Bwrdd falle eich bod chi neu rywun dachi’n ‘nabod efo diddordeb? Mae mwy o wybodaeth yma.

Mae’n bwysig bod Theatr Gen yn theatr sy’n atebol ac yn esblygu, sy’n blatfform i leisiau’r genedl rannu, diddanu, a chwestiynu. Mae lle i ni ymateb i ddigwyddiadau o’n cwmpas ac ar draws y byd. Mae hefyd yn bwysig bod y drws yn agored i ni glywed syniadau newydd, sgwrsio efo gweithwyr llawrydd celfyddydol, a chysylltu efo unrhyw un efo diddordeb mewn creu yn y Gymraeg. 

Y bwriad dros tri mis cyntaf y flwyddyn ydi cynnal sesiynau agored i unrhyw un hoffai drafod syniadau, gyrfa, a be sydd i ddod gan Theatr Gen. Fydda i a’r tîm yn mynd ar daith i bedwar lleoliad (ac hefyd ar gael ar Zoom) i gael sgyrsiau anffurfiol. Mae mwy o fanylion am sut i gofrestru ar y botwm isod.

Joiwch y gwyliau a gobeithio welai chi yn Pijin neu un o’r sesiynau agored! 

Steffan