Dyma brosiect cenedlaethol sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, a grŵp o Droseddwyr Ifanc i gael mynediad i’r celfyddydau, drwy greu gwaith gwreiddiol dan arweiniad artistiaid profiadol ac ysbrydoledig.

Mae Criw Creu yn cael ei arwain gan Theatr Cymru gyda chefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru. Dyma gyfle i bobl ifanc berchnogi’r prosiect a bod yn gyfrifol am gynnwys y prosiect.

Cychwynnodd y prosiect gyda phrosiect Murlun Bro Pedr yn 2021, diolch i nawdd gan Western Power Distribution a Culture Step, drwy Celf a BusnesDarllenwch y stori yma

Yna, aeth y prosiect yn genedlaethol gyda gweithdai yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor.

Yn 2022, cafodd y prosiect ei ddatblygu ac roedd pedair ysgol uwchradd yn rhan o’r prosiect sef Ysgol Bro PedrCriw Hwb Ysgol Tryfan Bangor, disgyblion Sgiliau Bywyd Ysgol Penweddig Aberystwyth a chriw o Ysgol Plasmawr, Caerdydd.

Yn 2023, roeddem yn falch iawn o weithio gyda grwpiau o ddwy ysgol yn Sir Gâr, sef Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Uwchradd Y Frenhines Elisabeth.  

Yn 2024, buom yn gweithio gyda grŵp o Droseddwyr Ifanc rhwng 14 a 18 oed o Garchar y Parc ger Penybont-ar-Ogwr.