• Prosiect cenedlaethol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw Criw Creu sy’n cael ei arwain gan Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

    Yn 2022, roedd disgyblion pedair ysgol uwchradd yn rhan o’r prosiect, sef Ysgol Bro Pedr, Criw Hwb Ysgol Tryfan Bangor, disgyblion Sgiliau Bywyd Ysgol Penweddig Aberystwyth a chriw o Ysgol Plasmawr, Caerdydd.

    Hwn oedd y tro cyntaf i nifer o’r disgyblion gael y cyfle i gydweithio gydag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol. Cafwyd gweithdai drama gan Sian Elin, ein Cydlynydd Cyfranogi. Daeth Casi Wyn, Bardd Plant Cymru, i gydweithio â’r disgyblion a chreu darnau gwreiddiol o farddoniaeth, diolch i Lenyddiaeth Cymru. Cafwyd gweithdai animeiddio gyda Sioned Medi Evans o gwmni SMEI ac hefyd recordio cerddoriaeth gyda cherddorion a swyddogion gwych yr Urdd, Marged Gwenllian, Osian Rhys, Caryl Griffiths, Seimon Thomas a Lewys Wyn Jones

Cychwynodd y prosiect gyda phrosiect Murlun Bro Pedr, diolch i nawdd gan Western Power Distribution a Culture Step, drwy Celf a Busnes. Darllenwch y stori yma

Yna, aeth y prosiect yn genedlaethol gyda gweithdai yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor. Cewch weld ffrwyth llafur disgyblion yr ysgolion o'r ardaloedd hynny yn y fideos isod:

"Mae hyn wedi bod yn gyfle anhygoel i'n disgyblion i weithio ar ffilm fer sydd wedi deillio o'u syniadau. Mae’n hyfryd gwylio nhw a gweld nhw’n datblygu syniadau, magu hyder a chydweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod pob sesiwn. Maen nhw gyd yn mwynhau ac yn gofyn i mi yn ddyddiol pryd mae’r sesiwn nesaf" Stephanie Williams, Ysgol Plasmawr; 

 

"Mae ein disgyblion ni yn awyddus iawn i gymryd rhan yn y cynllun, oherwydd mae’r gweithgareddau wedi cael eu creu yn benodol iddynt ac mae hynny’n gyfle arbennig." Angharad Evans, Ysgol Penweddig. 

Ry'n ni'n edrych ymlaen at weld y prosiect yn dychwelyd, ac mae paratoadau cyffrous ar y gweill! Dy'n ni'n methu aros i rannu mwy am y cynlluniau ar gyfer Criw Creu 2023, a gweld ffrwyth llafur y disgyblion eleni.

Four young people sit around a table. They all wear a school uniform and Two of them wear face masks. They are all looking at each other. On the table there is a projector and a laptop. There is a whiteboard behind them with unclear blue writing on. On the walls behind them various pieces of paper with colourful writing have been stuck on.
3 young girls in school uniform and a young woman in formal clothing sit around a table. 2 of them are wearing masks lowered down around their chin. Two of their mouths are open mid-conversation. One of the girls is holding a pencil, and they are looking at a piece of paper that is on the table.
4 young people wearing school uniforms are sat in a classroom. One of them is a young female in a wheelchair. Behind them two young women are sat on top of a table. They wear lanyards around their necks and are dressed formally. Everyone in the image is looking into the camera and smiling.
Interior of a busy classroom. The walls are covered in multicoloured informational posters and pupils’ work. A mix of pupils and teachers are sitting in a circle together. Everyone is looking at one of the individuals who is mid conversation. Many of them are wearing face masks.
Three young male students are sat together on a table. They all wear a school uniform and one is wearing a black face mask. They are all smiling and looking directly into the camera.
Two young pupils in school uniform and a young woman in formal clothing are sitting on the floor of a classroom. There are pieces of paper and craft supplies on the floor around them. Two are staring down at a piece of work one of the pupils has created, and one is cutting a shape from paper using scissors.
Interior of a busy classroom. A mix of pupils and older individuals are sat on chairs in a circle. One young woman is sat on the floor writing on a large piece of paper and many of the pupils are looking at her. In the background some of the pupils are talking amongst themselves.