Mae Theatr Cymru yn falch iawn i gyhoeddi’r cast a’r tîm creadigol gwych fydd yn dod â gwaith ein dramodwyr aruthrol i lwyfan Caffi Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
O dan gyfarwyddyd Rhian Blythe, bydd Wes Wes! yn cynnwys perfformiadau gan Cadi Beaufort (Stwnsh Sadwrn), Noel Loreto Davies (Rownd a Rownd/ Wrecslam!), Rhodri Evan (Y Sŵn) a Gwenllian Higginson (35 Diwrnod/ Gwlad yr Asyn). Ochr yn ochr â’r cast arbennig hwn, bydd Màth Roberts – y cyfansoddwr a chyfarwyddwr cerdd – hefyd yn perfformio. Bydd y set a'r gwisgoedd yn cael eu dylunio gan Lois Prys a bydd Jess Williams yn ymuno â'r tîm fel cyfarwyddwr symud.
Yn dilyn llwyddiant aruthrol Wrecslam! (2025), Ha/Ha (2024) a Rwan/Nawr (2023), bydd Wes Wes! yn cynnig awr wyllt o ddramâu comedi byrion yng Nghaffi Maes B, gan roi llwyfan i sgwennu newydd a chynnig cyfle i ddatblygu a chynhyrchu gwaith byr Cymraeg newydd.
Eleni, bydd y sioe yn cynnwys sgwennu newydd gan Carwyn Blayney, Leo Drayton, Geraint Lewis a Grug Muse - gyda Llinos Mai yn ysgrifennu prolog ac epilog i bontio'r dramâu.
Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru:
“Dwi’n falch iawn bod ein cynllun sgriptio newydd yn dychwelyd i’r Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto eleni, gyda Rhian Blythe wrth y llyw. Ers lansio'r gyfres yma o sioeau gyda Rwan/Nawr yn 2023, mae'r perfformiadau cyffrous yma yng Nghaffi Maes B yn un o'n huchafbwyntiau blynyddol fel cwmni ac mae'r ymateb gan y gynulleidfa wastad yn anhygoel.
Ar ôl galwad agored i adnabod dramodwyr, mae’n wych gweld cast a thîm creadigol arbennig yn dod ynghyd i wireddu eu gwaith rhagorol - a dwi methu aros i rannu gwledd o hiwmor a direidi gyda Steddfodwyr y Garreg Las”.
Dewch i weld Wes Wes! yng Nghaffi Maes B am 6pm rhwng 3 a 6 Awst 2026 (o nos Lun tan nos Iau). Mynediad am ddim gyda thocyn i'r Maes.