Mae myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael y cyfle i weithio ar gynhyrchiad diweddaraf Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Arad Goch, Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau.
Fel rhan o bartneriaeth y cynhyrchiad gyda’r Egin, mae myfyrwyr presennol o’r Brifysgol wedi cael cyfle i ymgeisio am rolau o fewn y sioe – cyfle cyffrous i’r unigolion llwyddiannus ennill profiad ymarferol fel rhan o dîm technegol a chriw llwyfan ar gynhyrchiad theatr proffesiynol Cymraeg sy’n teithio i leoliadau ledled Cymru.
Ry’n ni’n falch iawn o groesawu Ashling Ryan fel Cynorthwy-ydd Adran Gynhyrchu (Props), Nicole Evans i Gysgodi Cyfarwyddwr ac Alice Pearson fel Cefnogaeth Dechnoleg a Chriw Llwyfan. Bydd y tair yn gweithio ochr yn ochr gyda’r tîm creadigol a rheoli llwyfan i sicrhau bod pob perfformiad yn llwyddiannus.
Ond mae rhai myfyrwyr o’r Brifysgol wedi bod yn gweithio ar y cynhyrchiad ers cyfnod hir. Myfyrwyr Dylunio a Chynhyrchu Setiau y Brifysgol oedd yn gyfrifol am greu a phaentio’r set i’r sioe newydd hon. Gan weithio i safonau a dyddiadau cau ar lefel diwydiant, darparodd y fenter brofiad amhrisiadwy yn y byd go iawn, gan adlewyrchu’n agos ddisgwyliadau a chyflymder amgylcheddau theatr proffesiynol, a hefyd gweithio o gynlluniau’r Cynllunydd Set, Cai Dyfan.
Roedd Ashling Ryan yn rhan o’r prosiect creu set ac mae hefyd wedi derbyn rôl fel rhan o griw’r cynhyrchiad lle fydd hi’n helpu i baratoi, trefnu ac edrych ar ôl props yn ystod y cynhyrchiad. Dywedodd:
“Mae wedi bod yn wych cael y cyfle i weld y set yn mynd o fflatiau di-baent yn y gweithdy i set orffenedig ar y llwyfan. Mae’r cyfle hwn wedi fy helpu i adeiladu fy mhortffolio ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio ar y cynhyrchiad hwn. Trwy gydol fy amser yn PCYDDS rwyf wedi dod o hyd i angerdd dros weithio cefn llwyfan a bydd hyn yn caniatáu i mi brofi hynny ar sioe deithiol am y tro cyntaf. Bydd hyn hefyd yn rhoi profiad a chysylltiadau gwerthfawr i mi i'm helpu o fewn y diwydiant.”
Mae Nicole Evans wedi derbyn y rôl i gysgodi’r cyfarwyddo ar gyfer y cynhyrchiad. Yn ei rôl mi fydd yn arsylwi ar waith y cyfarwyddwr Ffion Wyn Bowen o’r broses ymarfer i’r perfformiadau terfynol, yn ogystal â sut i fynd ati i fynd â chynhyrchiad ar daith. Dywedodd:
“Rwy’n edrych ymlaen at gael profiad dysgu uniongyrchol ar gyfarwyddo ac arsylwi mewn gofod ymarfer proffesiynol ac yn gyffrous i gymhwyso fy natblygiad fel myfyriwr yma yn PCYDDS i mewn i’r diwydiant. Dwi’n methu aros i weld y sioe hudol hon yn dod yn fyw!”
Mae Alice Pearson wedi cael y cyfle i gynorthwyo fel Cefnogaeth Dechnoleg a Chriw Llwyfan ar y cynhyrchiad, ac mae’n edrych ymlaen i ehangu ei rhwydwaith, dysgu mwy am y diwydiant, a datblygu’i sgiliau mewn amgylchedd perfformiad byw:
“Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr fel Cara Hood ac Eädyth Crawford. Fel rhywun sy’n angerddol am adrodd straeon sain a gweledol, mae’r cyfle i ddysgu gan dîm creadigol a thechnegol dan arweiniad menywod mewn maes sy’n aml yn cael ei ddominyddu gan ddynion yn arbennig o ystyrlon. Yn fwy na dim, rwy’n gyffrous am haf o gydweithio â phobl o’r un anian a helpu i ddod â’r stori hudolus hon i gynulleidfaoedd ledled Cymru.”
Ry’n ni’n falch iawn o gydweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar y cynhyrchiad hwn. Diolch a phob lwc i’r myfyrwyr gwych!