15/04/2026

Theatr Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn cyd-gynhyrchu Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig

hedd wyn

Mae Theatr Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn gweithio ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru i gyflwyno Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig.

O ddychymyg Gruff Rhys, gyda cherddoriaeth gan Stephen McNeff a chyfarwyddyd gan Steffan Donnelly, mae Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig yn opera newydd gythryblus sydd wedi'i osod yn Nhrawsfynydd ar ôl trychineb yn yr orsaf bŵer niwclear gyfagos. Gyda'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn gwrthdaro, mae etifeddiaeth Hedd Wyn yn cael ei wyrdroi yn enw dechreuad newydd peryglus - gan ofyn cwestiynau ynghylch hunaniaeth Gymreig a sut y gellir camddehongli, mytholegu ac adennill stori’r bardd. 

Dan arweiniad Iwan Teifion Davies, mae'r cantorion yn cynnwys Steffan Lloyd Owen (Carlo / Hedd Wyn / Yr Arwr), Paul Carey Jones (Y Bon Pebr) a Rebecca Evans (Y Fon Hon).

Mae'r opera newydd hon yn rhan o Dymor 26/27 Opera Cenedlaethol Cymru, sy'n nodi pen-blwydd y cwmni yn 80 oed.

"Fel cwmni, ry'n ni'n ymfalchio mewn dathlu gwahanol ffurfiau o theatr - ac felly mae'n bleser cyhoeddi y byddwn yn cyflwyno ein opera graddfa fawr gyntaf yn 2027. Mae cydweithio efo Opera Cenedlaethol Cymru yn bleser ac yn gyfle i ddau gwmni cenedlaethol gydweithio i greu cynhyrchiad uchelgeisiol Cymreig. Mae cyfarwyddo fy opera gyntaf gyda cerddoriaeth anhygoel Stephen, libretto direidus a gafaelgar Gruff, arweinyddiaeth cerddorol Iwan, a chast mor dalentog o fyd ryngwladol opera yn anrhydedd."

Bydd Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig ar lwyfan Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, ym mis Mai 2027 a bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn hir.