Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig

Trawsfynydd, 2117... Mae grŵp o bererinion yn ymweld â chartref teuluol Hedd Wyn i ailgysylltu â’u treftadaeth Gymreig, yn dilyn trychineb yn yr orsaf bŵer niwclear gyfagos.

Trawsfynydd, 2117.

200 mlynedd ar ôl marwolaeth y bardd, Hedd Wyn, mae grŵp o bererinion yn dychwelyd i Drawsfynydd - sydd bellach yn ardal waharddedig yn dilyn trychineb yn yr orsaf bŵer niwclear gyfagos - i ailgysylltu â’u treftadaeth Gymreig.

Gan ddisgwyl taith goffa o amgylch cartref teuluol Hedd Wyn, maent yn hytrach yn camu i dirwedd doredig lle mae ymbelydredd wedi gwneud amser ei hun yn aneglur. Mae’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn gwrthdaro ac mae ysbrydion hanes a chwedl yn cerdded ochr yn ochr â’r gymuned wtopaidd fechan sydd ar ôl.

Wedi’u tywys gan oroeswyr rhyfedd y drychineb, mae’r grŵp yn mentro'n ddyfnach i’w hanes a gwraidd mytholeg Cymru tra bod gweledigaethau gwrthdrawiadol ar gyfer dyfodol Cymru yn ymddangos, ac mae etifeddiaeth Hedd Wyn yn cael ei hail lunio a’i wyrdroi yn enw dechreuad newydd peryglus.

O ddychymyg Gruff Rhys, gyda cherddoriaeth gan Stephen McNeff a chyfarwyddyd gan Steffan Donnelly, mae Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig yn opera newydd gythryblus sy’n ystyried sut y gellir camddehongli, mytholegu ac adennill stori’r bardd. Mae’n gofyn pwy sy’n cael penderfynu beth mae ei waddol yn ei olygu i Gymru heddiw?

Cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr Cymru. 

Cenir yn Gymraeg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.

Hyd y perfformiad yw dwy awr yn cynnwys un egwyl.

Dyddiadau’r Daith

  • 18 Mai 2027
    19:30
    Perfformiad byw
    Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru
  • 20 Mai 2027
    19:30
    Perfformiad byw
    Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru
  • 22 Mai 2027
    19:30
    Perfformiad byw
    Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru
Cast

Carlo / Hedd Wyn / Yr Arwr Steffan Lloyd Owen
Y Bon Pebr Paul Carey Jones
Y Fon Hon Rebecca Evans

Tîm Creadigol

Cyfansoddwr Stephen McNeff
Librettist Gruff Rhys
Cyfarwyddwr Steffan Donnelly
Arweinydd Iwan Teifion Davies