Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo yn dychwelyd gyda sioe Nadolig
Yn dilyn llwyddiant y sioe blant Llygoden yr Eira, yn 2019, mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo wrth eu bodd yn cyhoeddi y bydd y cynhyrchiad yn teithio eto eleni yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig. Mae Llygoden yr Eira yn addasiad Cymraeg o’r sioe Saesneg boblogaidd Snow Mouse a grëwyd yn wreiddiol gan the egg a Travelling Light.
Mae Llygoden yr Eira yn stori aeafol a hudolus ar gyfer plant dan 5 oed a’u teuluoedd – yn llawn dop o chwarae, pypedau a cherddoriaeth. Mae’r sioe yn dilyn plentyn ifanc wrth iddo ddod o hyd i lygoden fach yn cysgu’n sownd dan yr eira mewn coedwig hudol. Gan lithro, cwympo a chwerthin, mae’r ddau ffrind bach newydd yn mwynhau archwilio pob twll a chornel o’r tirlun gaeafol gyda’i gilydd. Yn sioe sy’n llawn cymeriadau bywiog yn cyflwyno stori weledol, mae Llygoden yr Eira yn wledd Nadoligaidd i’r teulu, yn siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd.
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Rydym yn falch iawn o weithio unwaith eto gyda Theatr Iolo ar y sioe hyfryd hon ar gyfer y plant lleiaf a’u teuluoedd. Mae’n bleser hefyd cael mynd â’r cynhyrchiad i leoliadau bychan ledled Cymru yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig. I lawer, hwn fydd y tro cyntaf iddynt ddychwelyd i’r theatr ar ôl dwy flynedd heriol iawn, a byddwn yn gweithio gyda’r lleoliadau i wneud y profiad hwnnw mor ddiogel a phleserus â phosib. Wedi ei osod mewn tirlun gaeafol llawn hud a lledrith, mae hwn yn brofiad theatr cyfareddol a hygyrch lle mae iaith, cerddoriaeth a chwarae yn cyfuno i greu cyflwyniad hyfryd.”
Yn dilyn ymlaen o’i lwyddiannau diweddar gyda HOOF!, cynhyrchiad awyr-agored Theatr Iolo gyda Kitsch a Sync, a Christmas Carol yn y Bristol Old Vic, Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig Artistic Theatr Iolo, fydd unwaith eto’n cyfarwyddo Llygoden yr Eira. Dywedodd Lee:
“Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio eto gyda Theatr Genedlaethol Cymru i ddod â Llygoden yr Eira yn ôl i lwyfannau ledled Cymru. Mae Llygoden yr Eira yn gyfle perffaith i deuluoedd fwynhau naws hudol y gaeaf gyda’i gilydd, a chefnogi eu canolfannau lleol wrth iddynt ailagor yn raddol ar ôl dwy flynedd heriol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at rannu’r stori hyfryd hon, wedi ei hailddychmygu yn yr iaith Gymraeg, gyda chymunedau a lleoliadau ym mhob cwr o Gymru.”
Iwan Garmon fydd yn serennu yn Llygoden yr Eira eto eleni. Actor wedi’i leoli yng ngogledd Cymru yw Iwan, a bu’n gweithio gyda’r ddau gwmni yn y gorffennol. Mae e hefyd wedi gweithio i’r RNIB a Chwmni Mega.
Ffion Wyn Bowen o Aberystwyth, yw’r Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Llygoden yr Eira. A hithau’n gyfarwyddwr ac actores brofiadol mewn cynyrchiadau ar gyfer plant a phobl ifanc, Ffion oedd y Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer y cynhyrchiad yn 2019, a bydd yn dychwelyd eto ar gyfer taith 2021.
Bydd Llygoden yr Eira yn ymweld â chanolfannau ledled Cymru yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2021. Gweler isod am restr lawn o ddyddiadau’r daith.
Y Daith:
Ffwrnes, Llanelli
18.11.21 – 20.11.21
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
23.11.21
Chapter, Caerdydd
25.11.21 – 27.11.21
Canolfan Celfyddydau Pontardawe
30.11.21
Canolfan y Celfyddydau Memo, Y Barri
01.12.21 + 02.12.21
Home-New - Memo Arts Centre, Barry
Y Neuadd Les, Ystradgynlais
03.12.21
Hafan - The Welfare (yneuaddlesystradgynlais.cymru)
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
04.12.21 + 5.12.21
Theatr Clwyd, Yr Wyddgug
09.12.21 – 11.12.21
Theatr Derek Williams, Y Bala
13.12.21
Galeri, Caernarfon
16.12.21 – 18.12.21
Categorïau: Newyddion