Cyfle Newydd i Ddramodwyr Ifanc Cymru
Sêr ifanc Cymru! Mae Clwb Theatr Cymru yn dychwelyd y Nadolig hwn gyda llond sach o hwyl a sbri.
Yn ystod gwyliau’r haf eleni, daeth 118 o blant ledled Cymru at ei gilydd dros Zoom i berfformio, dawnsio a joio. Nawr, ry’n ni wrthi’n cynllunio gweithdai newydd Nadoligaidd i roi cyfle i berfformwyr ifanc ledled y wlad fynd i hwyl yr ŵyl.
Bob dydd Mercher yn ystod gwyliau’r Nadolig, bydd arbenigwyr o’r celfyddydau – Richard Elis a Jalisa Andrews – yn arwain sesiynau creadigol, sy’n llawn sbort a sbri. Bydd Sian Elin (ein Cydlynydd Cyfranogi) hefyd yn y ddwy sesiwn i roi croeso cynnes i chi gyd.
- 23 Rhagfyr 2020: Creu Cymeriadau gyda Richard Elis
- 30 Rhagfyr 2020: Dawnsio gyda Jalisa Andrews
Mae Clwb Theatr Cymru Nadolig yn rhad ac am ddim ac mae’r gweithdai yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r sesiynau’n addas i blant ysgolion cynradd o flynyddoedd 2 i 6 – a bydd y cyfan yn digwydd dros Zoom.
Ry’n ni eisiau gwneud ein sesiynau yn hygyrch i bawb ac mae hynny’n golygu trefniadau gwahanol i wahanol unigolion. Felly plîs cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.
Cysylltwch â’ch Menter Iaith leol i gadw lle erbyn 14 Rhagfyr 2020. Os nad ydych chi’n adnabod eich Menter leol, mae rhestr ar gael fan hyn.
Mae Clwb Theatr Cymru yn brosiect ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Mentrau Iaith Cymru. Ers nifer o flynyddoedd, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi gweithio’n agos gyda Mentrau Iaith yng ngorllewin Cymru i ddarparu Clybiau Drama bob wythnos. Clwb Theatr Cymru oedd y tro cyntaf i’r cwmni weithio mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru i ddod â’r holl fentrau ledled Cymru ynghyd a darparu gwaith cyfranogi ar y raddfa hon. Ry’n ni’n falch o gydweithio unwaith eto dros y Nadolig.
Gwyliwch fideo am brofiadau plant Clwb Theatr Cymru dros yr haf fan hyn.
Ry’n ni’n falch iawn i allu cyhoeddi’r panel fydd yn ymuno â ni i drafod ceisiadau ar gyfer ein Bwrsari Datblygu Syniad: Nia Edwards-Behi, Dan Jones a Denni Turp.
Mae Nia Edwards-Behi yn gweithio fel Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac yn gyd-gyfarwyddwr Gŵyl Arswyd Abertoir. Mae hi wedi cyfrannu at raglenni ar BBC Radio Cymru ac S4C ac wedi ysgrifennu ar gyfer Planet a Wales Arts Review ymysg eraill.
Dan Jones yw Cyfarwyddwr Artistig The Other Room. Mae’i waith cyfarwyddo’n cynnwys ar gyfer Critical Ambition Theatre ac mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cyswllt a Chynorthwyol gyda Difficult Stage, Theatr Clwyd a Chanolfan Celfyddydau Pontardawe. Mae Dan hefyd yn gyd-sylfaenydd Critical Ambition Theatre ac yn gyn-aelod o West Glamorgan Youth Theatre.
Magwyd Denni Turp yn Llundain ac mae bellach yn byw yng ngogledd Cymru. Bardd yw Denni efo MA (gyda Rhagoriaeth) o Brifysgol Bangor ac mae’n Is-Gadeirydd Disability Arts Cymru.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r tri i ddarllen a thrafod ceisiadau ein Bwrsari Datblygu Syniad. Mae’r bwrsari hwn yn rhoi cyfle i 5 artist sydd wedi’u tangynrychioli yn ein gwaith ar hyn o bryd ddechrau datblygu syniad ar gyfer drama neu gynhyrchiad theatr newydd gyda ni. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o fwrsarïau fydd Theatr Gen yn eu cynnig i artistiaid a gweithwyr theatr dros y misoedd nesaf.
I ddarllen am ein bwrsari diweddaraf, cliciwch yma.
Ry’n ni’n falch o gyhoeddi bod yr artistiaid Mari Elen Jones a Chris Harris wedi derbyn comisiynau i gyflwyno gwaith newydd yng nghynhadledd Ceangal | Dolen II fis Tachwedd eleni. Byddan nhw’n ymuno ag artistiaid o Iwerddon a’r Alban, a bydd pob artist yn cyflwyno darn newydd yn eu hiaith Geltaidd eu hunain ar y thema “Cysylltiadau”.
Theatr Genedlaethol Cymru yw un o 50 sefydliad celfyddydol i gael ei ariannu i gynnal Cymrawd drwy Ysgoloriaethau Creadigol Weston Jerwood.
Ar y cyd â Mentrau Iaith Cymru rydym yn falch o gyhoeddi heddiw ein bod yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno Clwb Theatr Cymru er mwyn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd creadigol a hybu sgiliau perfformio i blant ledled Cymru dros yr haf. Darllen mwy…
Rydym yn falch o gyhoeddi mai Carys ac Andy gan Elin Gwyn yw’r ail mewn cyfres o Ddramâu Micro gennym ni, BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru. Darllen mwy…
Mae’r digwyddiadau diweddar yn America – ac ar draws y byd – wedi atgyfnerthu’r angen am fwy o newid, mwy o ymwybyddiaeth o fraint a thuedd, a’r angen i godi llais yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu ar bob ffurf. Maent wedi dod â phroblemau hiliaeth systemig i’r amlwg ac wedi tynnu sylw at yr angen i ni i gyd weithio’n galetach i sicrhau bod pawb yn derbyn y parch a’r cyfleoedd y maent yn eu haeddu. Darllen mwy…
Ochr yn ochr â National Theatre Wales, rydym yn falch o gyhoeddi comisiynau ar gyfer tri phrosiect i artistiaid theatr o Gymru fel rhan o ail rownd ein Comisiynau Digidol Newydd. Yr artistiaid llwyddiannus yw: Er Cof, Jessie Brett, ac Anna Poole a Kelly Jones. Darllen mwy…
Rydym yn falch iawn o lansio partneriaeth newydd gyda BBC Cymru i ddatblygu profiadau theatrig i’n cynulleidfaoedd fwynhau ar blatfformau digidol yn ystod y cyfnod hwn. Darllen mwy…
Rydym yn falch iawn o weithio ar y cyd â’r tîm yn National Theatre Wales, ac mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales a BBC Arts, wrth gyhoeddi galwad am gomisiynau newydd i greu theatr fyw ar blatfformau digidol yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud presennol. Darllen mwy…
Yn sgîl y sefyllfa bresennol o gylch COVID-19 (Coronafirws), ochr yn ochr â’n cyd-gynhyrchwyr a phartneriaid, Criw Brwd, Theatr Soar a The Other Room, mae’n ddrwg gennym gyhoeddi ein bod wedi penderfynu canslo taith genedlaethol Pryd Mae’r Haf? fis Ebrill a Mai. Darllen mwy…
Ochr yn ochr â’n cyd-gynhyrchwyr Theatr y Sherman, rydym wedi penderfynu canslo taith genedlaethol Tylwyth gan Daf James. Darllen mwy…
Darllen mwy…
Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ‘Sgrifennodd Honna?
Darlleniadau o ddramâu Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru Darllen mwy…
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi cast llawn y cynhyrchiad Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd sy’n teithio ledled Cymru rhwng 13 Mawrth ac 13 Ebrill. Llwyddodd Merched Caerdydd, sy’n waith newydd gan Catrin Dafydd, i ddenu cynulleidfaoedd mawr i’r darlleniadau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, ac mae Nos Sadwrn o Hyd yn drosiad Cymraeg gan Roger Williams o’i ddrama boblogaidd Saturday Night Forever. Dyma ddwy ddrama gyfoes wedi eu lleoli yn y brifddinas, gan ddau o’n hawduron mwyaf beiddgar. Darllen mwy…
Fel rhan o Theatr Gen Creu – menter Theatr Genedlaethol Cymru sy’n cefnogi datblygiad artistiaid theatr ac yn hybu talent – mae’r cwmni’n galw am geisiadau ar gyfer Awenau: Cynllun Hyfforddi a Mentora Cyfarwyddwyr Theatr. Mae hwn yn gyfle arbennig i gyfarwyddwyr theatr sydd ar ddechrau eu gyrfa, neu i artistiaid theatr sy’n awyddus i newid cyfeiriad a rhoi cynnig ar gyfarwyddo, i’w galluogi i ddatblygu eu crefft. Darllen mwy…
Yn dilyn llwyddiant ysgubol taith Nyrsys yn ddiweddar, mae’n bleser o’r mwyaf gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi manylion pellach am daith Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd, sef cynhyrchiad nesaf y cwmni. Darllen mwy…
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o’r cyfle eto eleni i gydweithio gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru i drefnu rhaglen o weithgareddau theatr yn y Pentref Drama. Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, rydym yn galw am geisiadau i gyflwyno digwyddiadau amrywiol fel rhan o raglen y Pentref Drama, a hynny’n bennaf yn Theatr y Maes Darllen mwy…
Llongyfarchiadau i Ganolfan S4C Yr Egin ar agoriad swyddogol yr adeilad yr wythnos hon!
Diolch i’r holl ddisgyblion ysgol ddaeth draw i Ganolfan S4C Yr Egin ar gyfer gweithdai drama gyda’n Cyfarwyddwr Cyswllt Sarah Bickerton. Cafodd Sarah amser gwych yn arwain sesiynau actio i ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Y Strade, Ysgol Bro Myrddin, Ysgol y Preseli, ac Ysgol Maes y Gwendraeth ar ddydd Mercher!
26/10/2018
Cyflwyno ein Grŵp Dramodwyr Newydd
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn dymuno penodi Cadeirydd newydd erbyn diwedd 2018 i arwain y cwmni drwy gyfnod cyffrous yn ei hanes. Darllen mwy…
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r dramodwyr hynny sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o gynllun cenedlaethol newydd i ddatblygu crefft awduron llwyfan trwy gyfrwng y Gymraeg, sef Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru. Darllen mwy…
Unwaith eto eleni, bydd y Pentref Drama yn rhan ganolog o arlwy’r Eisteddfod Genedlaethol, gyda’r bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod a Theatr Genedlaethol Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth. Darllen mwy…
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi eu bod wedi croesawu tri aelod newydd i Fwrdd Ymddiriedolwyr y cwmni’n ddiweddar. Penodwyd Catherine Rees, Gwyn Williams a Meilir Rhys Williams ym mis Chwefror eleni, ac fe ddaeth y tri i’w cyfarfod cyntaf swyddogol o’r Bwrdd ar y 9fed o Fehefin. Dewch i gwrdd â’n haelodau newydd . . . Darllen mwy…
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi rhaglen Theatr Gen Creu yn y Steddfod, menter newydd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ym Mae Caerdydd 4–11 Awst. Darllen mwy…
- Cynllun mentoriaeth a hyfforddiant rhad ac am ddim ar gyfer awduron theatr newydd a chymharol newydd
- Anogaeth arbennig i rai sydd wedi eu tangynrychioli yn y celfyddydau i ymgeisio
- Rhaglen gyfoethog o ddigwyddiadau a gweithdai i ddatblygu a meithrin talent
Yn 2018, bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr Clwyd a Theatr Genedlaethol Cymru i ddarparu preswyl dros 7 diwrnod a fydd yn cynnig cyfleoedd datblygu i berfformwyr ifanc sydd hefyd â diddordeb mewn llwybrau gyrfa eraill yn y maes. Darllen mwy…
Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes iawn i chi ymuno â ni wrth i ni ymarfer ac agor ein sioe wanwyn, Estron, yn Theatr y Glowyr, Rhydaman, cyn iddi fynd ar daith ledled Cymru. Darllen mwy…
Am y tro cyntaf erioed mae gwers gyfoes gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn seiliedig ar gynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru. Mae eu gwers gyfoes ddiweddaraf yn rhoi cyfle i ddysgwyr y Gymraeg gael blas ar gynhyrchiad Y Tad.
Mae’r Cwt Drama yn bartneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Ers ei sefydlu yn 2014, mae’r Cwt wedi hen ennill ei blwyf fel y prif ofod i gyflwyno gwaith theatr proffesiynol mewn datblygiad, digwyddiadau cyfranogol, a chyflwyniadau theatraidd graddfa-fechan neu amrwd yn y Pentref Drama ar faes y Brifwyl. Darllen mwy…
Rydym wrth ein boddau bod Gwobrau Theatr Cymru wedi cydnabod blwyddyn arbennig o waith gan Theatr Genedlaethol Cymru, a bod cynifer o’n cynyrchiadau, actorion a’r tîm creadigol wedi cyrraedd rhestrau byr Gwobrau Theatr Cymru 2018. Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Glan yr Afon, Casnewydd ar 27 Ionawr. Darllen mwy…
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi ei rhaglen ar gyfer y tymor sydd i ddod, a chyflwyno menter newydd, sef Theatr Gen Creu.
A hithau’n flwyddyn pan fydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed, trwy gydol 2018 bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn archwilio’r thema Gofal a Chymuned, ac yn cyflwyno dau gynhyrchiad newydd ar daith ledled Cymru. Y cyntaf o’r rhain fydd Y Tad, sef trosiad newydd gan Geraint Løvgreen o’r ddrama Ffrangeg arobryn Le Père, sy’n mynd ar daith yn ystod Chwefror a Mawrth. Ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr, bydd y cwmni’n mynd â Nyrsys ar daith, sef drama gair-am-air newydd a phwerus gan Bethan Marlow, sy’n cynnwys nifer o ganeuon gwreiddiol gan Rhys Taylor. Darllen mwy…
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi mai Dyfan Roberts fydd yn chwarae rhan Y Tad yn eu cynhyrchiad nesaf o’r un enw, a hynny yn ystod Chwefror a Mawrth 2018. Mae Dyfan yn actor profiadol tu hwnt ac yn enw cyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd Cymraeg. Darllen mwy…
Ddydd Sadwrn 30 Medi 2017, cynhaliwyd cwrs undydd yn Nhŷ Newydd – sef Gweithdy Sgriptio Gair am Air – dan ofal y tiwtoriaid Manon Wyn Williams, awdur sgript Hollti, a Sarah Bickerton, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru a chyfarwyddwr y cynhyrchiad. Darllen mwy…
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi mai Y Tad fydd cynhyrchiad nesaf y cwmni, a hynny yn ystod Chwefror a Mawrth 2018. Mae Y Tad yn drosiad newydd i’r Gymraeg gan Geraint Løvgreen o Le Père gan Florian Zeller, ac yn waith buddugol y gystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a’r Cyffiniau, 2016. Darllen mwy…
Y penwythnos yma bydd yr awdur Anni Llŷn yn cynnal gweithdy’n seiliedig ar ysgrifennu i blant yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i blant. Mae’r ŵyl yn bartneriaeth rhwng nifer o sefydliadau: yr Urdd; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Llenyddiaeth Cymru; Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw. Darllen mwy…
Gwahoddiad i drigolion Môn: dewch i weld cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru yn Galeri Caernarfon!
- Cynnig arbennig i bobl Môn – trefnwyd bws, yn rhad ac am ddim, i gludo trigolion o Ynys Môn i Galeri Caernarfon, ar gyfer noson agoriadol taith genedlaethol Hollti.
- Drama newydd sy’n seiliedig ar gynlluniau ar gyfer atomfa newydd ar yr ynys, ac ymateb y gymuned leol.
Bydd Estron, drama fuddugol Hefin Robinson yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni a’r Cyffiiau 2016, yn cael ei llwyfannu yn y Cwt Drama ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni. Hon fydd prif ddrama’r wythnos yn y Pentref Drama, a chaiff ei chyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Darllen mwy…
Mae’r ffilm Macbeth gan Theatr Genedlaethol Cymru bellach ar gael i sefydliadau addysg a dysgwyr. Darllen mwy…
Yn ddiweddar, bu Theatr Genedlaethol Cymru yn cydweithio gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru i ddarparu gweithdai drama cyffrous i ddisgyblion ysgolion cynradd Môn. Darllen mwy…
Darllen mwy…
Wrth i ni agosáu at Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ynys Môn 2017, pleser gan Theatr Genedlaethol Cymru yw cyhoeddi manylion pellach am ein cynhyrchiad nesaf, sef Hollti gan Manon Wyn Williams, a fydd yn agor yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Darllen mwy…
Mae’r tîm fu’n gyfrifol am y gwaith rheoli llwyfan ar gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth yng Nghastell Caerffili ym mis Chwefror eleni wedi cyrraedd rhestr fer y Gwobrau Rheoli Llwyfan Cenedlaethol 2017. Cynhelir y noson wobrwyo yn Llundain ar 7 Mehefin. Darllen mwy…
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi ei rhaglen ar gyfer y tymor sydd i ddod. Darllen mwy…
Mae pleser gennym gyhoeddi ein bod wedi penodi Sarah Bickerton yn Gyfarwyddwr Cyswllt. Mae Sarah yn ymuno â ni ar gytundeb penodedig o ddwy flynedd yn ystod cyfnod cyffrous, a ninnau ar fin cyhoeddi cynlluniau ar gyfer gweddill y flwyddyn hon. Darllen mwy…
Mewn cydweithrediad ag Urdd Gobaith Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Llenyddiaeth Cymru; Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw, rydym yn chwilio am 12 o awduron ifanc, rhwng 16 – 25 oed, i ymgymryd â’r her o ysgrifennu dramau byrion i blant ar gyfer eu llwyfannu fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2018.
Darllen mwy…
Dydd Sadwrn 8 Ebrill 2017 bydd Theatr Genedlaethol Cymru, ar y cyd ag Oriel Myrddin, yn cymryd rhan yn Cer i Greu, penwythnos byrlymus sy’n dathlu creadigrwydd yng Nghymru. Fel rhan o’r penwythnos arbennig hwn bydd y cwmni’n cynnal ‘Soprano a Sialc’ – digwyddiad rhad ac am ddim ym Maes Nott, Caerfyrddin, sy’n rhoi cyfle i blant a phobl o bob oedran ymwneud ag opera, cerddoriaeth glasurol a chelf stryd. Darllen mwy…
Ddydd Gwener diwethaf (10 Mawrth 2017), roedd Castell Caerffili yn llwyfan ysblennydd unwaith eto – y tro hwn i sgwadiau ’sgwennu dawnus o Ysgol Gwynllyw, Ysgol Cwm Rhymni ac Ysgol Gartholwg. Darllen mwy…
Nos Fawrth 14 Chwefror, am y tro cyntaf erioed, fe wnaeth Theatr Genedlaethol Cymru dorri tir newydd drwy ddarlledu eu cynhyrchiad diweddaraf – Macbeth – yn fyw o leoliad ysblennydd Castell Caerffili i ganolfannau ledled Cymru. Darllen mwy…
Mae Powder House, cwmni Cymreig newydd, yn chwilio am berfformwyr-crewyr i gymryd rhan yn y gwaith o Ymchwilio a Datblygu eu prosiect cyntaf ‘Saethu Cwningod / Shooting Rabbits’, dros gyfnod o wythnos. Darllen mwy…
Dros y blynyddoedd mae Gwobr Richard Burton wedi rhoi cyfle i rai o berfformwyr blaenaf Cymru gael profiad o fod ar lwyfan. Erbyn hyn, mae’r gystadleuaeth ymhlith perfformiadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod, a’r bwriad eleni yw rhoi hwb ac arweiniad i’r rheiny sy’n ystyried cystadlu am y wobr yn Eisteddfod Ynys Môn. Darllen mwy…
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sef cangen ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, wedi trefnu’r ddirprwyaeth ddiwylliannol ffurfiol gyntaf o Gymru i Tsieina fel rhan o Daith Fasnach Llywodraeth Cymru dan arweiniad Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet ar faterion yr Economi a Seilwaith. Aeth y grŵp i Shanghai ddydd Sadwrn 18 Chwefror, a byddant yn teithio i Beijing a Hong Kong yn ystod yr wythnos. Nod y daith yw hyrwyddo gwaith, partneriaethau a chyfleoedd dysgu newydd, a chyfnewid arddangosfeydd a pherfformiadau rhwng y ddwy wlad. Darllen mwy…
I gyd-fynd â chynhyrchiad hynod Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth yng Nghastell Caerffili, trefnwyd rhaglen addysgol a chyfranogi amrywiol sydd wedi tynnu ynghyd nifer o sefydliadau allweddol i ddod â Macbeth i ystafelloedd dosbarth y genedl. Dyma peth gwybodaeth am y prosiectau a’r partneriaethau sydd ar waith: Darllen mwy…
ae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod pecyn i ddysgwyr ar gael, wedi’i seilio ar ein cynhyrchiad nesaf, Macbeth. Crëwyd y pecyn i ddysgwyr gan Nant Gwrtheyrn, mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru gyda chymorth Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi cast cynhyrchiad uchelgeisiol a chyffrous nesaf y cwmni, sef Macbeth. Bydd y cwmni’n cyflwyno’r ddrama, sy’n gyfieithiad newydd gan y diweddar Athro Gwyn Thomas, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, yng Nghastell Caerffili ym mis Chwefror 2017. Bydd y cynhyrchiad hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw i ganolfannau ledled Cymru, fel rhan o fenter newydd Theatr Gen Byw. Mae’r cynhyrchiad yn ddigwyddiad allweddol wrth i Cadw ddathlu Blwyddyn y Chwedlau yn 2017.