Mae'r gwaith datblygu yn parhau ar ein cynhyrchiad Hydref 2027 – Gwenllïan – gyda deuddydd o waith R&D yng nghwmni grŵp o actorion arbennig.
Ry'n ni mor falch o dderbyn grant o £125,000 drwy gronfa Cynyrchiadau Mawr Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y cynhyrchiad uchelgeisiol hwn, fydd yn cael ei gyflwyno ar y cyd â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.
Drama Gymraeg newydd feiddgar gan Angharad Elen yw Gwenllïan, sy’n ail-ddychmygu stori ein Tywysoges olaf. Bydd yn taflu goleuni ar adeg dyngedfennol nad yw llawer yn gwybod amdani gan ail-glywed llais Gwenllïan a rhoi profiad menywod yng nghanol yr hanes. Gan gyfuno adrodd straeon ag elfennau cyfoes a swreal, bydd y darn yn archwilio hunaniaeth, ymreolaeth menywod ac effaith barhaol goresgyniad.
Yn mynd ar daith genedlaethol yn 2027, bydd y cynhyrchiad hwn gyda Chorws Cymru y BBC yn cynnwys cast o 30 gydag 20 o gantorion.
Cadwch lygad allan am fwy o wybodaeth yn fuan…
Lluniau gan Rhodri Brooks.