09/07/2026

Cyhoeddi Taith Te Angladd

te angladd

Mae Theatr Cymru yn falch o rannu lleoliadau a dyddiadau taith genedlaethol Te Angladd gan Gruffudd Owen, dilyniant i’r ddrama gomedi hynod lwyddiannus Parti Priodas. Wedi’i chyflwyno gyda chefnogaeth gan Galeri Caernarfon, bydd y ddrama newydd hon yn agor yn Galeri ar 23 Chwefror 2027 cyn teithio ledled Cymru tan 19 Mawrth 2027. 

Emynau, teyrngedau a chladdu brechdanau, mae Te Angladd yn ddrama newydd dyner a deifiol sy’n ail-gydio yn y cymeriadau hoffus, sgwennu ffraeth a themâu oesol wnaeth ddifyrru cynulleidfaoedd Parti Priodas yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 ac ar daith genedlaethol yn 2024. 

Mae’r ddrama newydd hon yn dilyn llwybrau bywyd y prif gymeriadau Lowri ac Idris ar ôl digwyddiadau’r ddrama gyntaf ac mae’r actorion gwreiddiol – Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies – yn dychwelyd i’w rhannau ar gyfer y ddrama newydd. 

Enillodd Theatr Cymru Wobr UK Theatre am Ragoriaeth Mewn Teithio ar gyfer taith Parti Priodas yn 2024 – gyda’r daith helaeth yn ymweld ag amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys clwb rygbi a Gŵyl Gomedi Machynlleth. Mae’r cwmni yn falch o adeiladu ar y gwaith hwnnw gyda thaith Te Angladd yn mynd yn bellach fyth i gyrraedd cynulleidfaoedd ar eu stepen drws. 

Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru: 

“Mae’n bleser mawr cyhoeddi heddiw y bydd Te Angladd yn teithio ledled Cymru dros y gwanwyn, gan ymweld â lleoliadau mawr a bach drwy gydol Chwefror a Mawrth.

Roedd ennill Gwobr UK Theatre am Ragoriaeth mewn Teithio yn 2024 am y ddrama gyntaf Parti Priodas yn foment arbennig iawn i bawb yn Theatr Cymru. Roedd yn gydnabyddiaeth wych o gysylltiad arbennig y cynhyrchiad hwnnw ag aelodau’r gynulleidfa ledled Cymru, ac ry’n ni wrth ein bodd yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw gyda'r dilyniant, Te Angladd.

Gan ddychwelyd at yr un model o deithio cymunedol, ry’n ni unwaith eto’n dod â theatr yn uniongyrchol i gymunedau ar draws y wlad. Gyda hiwmor nodweddiadol Gruff, themâu perthnasol sy’n taro tant yng Nghymru a thu hwnt, a pherfformiadau cofiadwy gan Mared a Mark, allwn ni ddim aros i groesawu cynulleidfaoedd yn ôl i’r byd hwn gyda Te Angladd.”

Yn ogystal â’r ddrama newydd hon, mae Theatr Cymru yn mynd â Parti Priodas ar daith ryngwladol fer eleni, gyda pherfformiadau yng Nghanolfan Cymry Llundain ar 27 a 28 Awst ac yng Ngŵyl Cymru Gogledd America (NAFOW) ar 2 Medi. Dyma’r perfformiad uniaith Gymraeg cyntaf fel prif ddigwyddiad yr ŵyl arbennig hon yn Springfield, Massachusetts.

Cliciwch isod i weld dyddiadau'r daith.