Dan adain ein Artist Arweiniol Iola Ynyr a chriw newydd o artistiaid, mae grŵp o gyfranogwyr o ardal Maesgeirchen ym Mangor – pob un ohonynt yn byw gyda neu wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth – wedi dod ynghyd i fod yn rhan o gyfres o weithdai creadigol. Mae’r prosiect hwn yn agos iawn at ein calon ni fel cwmni, ac ry’n ni’n hynod o falch o’i weld yn parhau.
Y tro hwn, wnaethon ni gyfuno’r gweithdai gyda gweithgareddau yn ymwneud â’n cynhyrchiad diweddaraf, Pijin | Pigeon, ac mae Bethan Marlow – y dramodydd sydd wedi addasu’r nofel i’r llwyfan – wedi bod wrthi’n gweithio gyda’r cyfranogwyr yn ystod eu sesiynau. Gyda’r gweithdai yn digwydd yn agos iawn i’r pentref chwarelyddol yn y ddrama, mae’r profiad wedi bod yn un arbennig i’n cyfranogwyr a’n hartistiaid.

Fel rhan o’r sesiynau, mae cyfle i'r cyfranogwyr ymateb i ddarnau o sgript Bethan yn agored, a thrwy ffyrdd creadigol. Wrth weld y cyfranogwyr yn ymateb i’w gwaith, meddai Bethan:
"Dwi’n coelio’n gryf bod gan pawb yr hawl a’r ddawn i gael cyfleoedd creadigol. Ma’ creu gofod diogel, hygyrch a heb ragfarn, fel ma’ Iola wedi gwneud yn Ar y Dibyn, yn hollol elfennol os ydan ni am geisio estyn allan at bobol fregus yn ein cymuned i gynnig y cyfleoedd yna. Roedd ca’l bod yn rhan fechan iawn o’r gweithdai yn bleser pur. Criw talentog a chefnogol. Ma’ ’na leisiau creadigol ac unigryw iawn yna sy’n haeddu llwyfan i gael eu clywed."
Ers ei ddechrau yn 2020, mae prosiect Ar y Dibyn wedi rhoi cyfle i rai sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth i ymateb i’w teimladau a’u profiadau mewn ffyrdd creadigol. Trwy gelf, siarad ac ysgrifennu, mae’r cyfranogwyr dros y 3 blynedd diwethaf wedi creu darnau o waith pwerus sy’n agor llygaid. Gallwch weld peth o’r gwaith hwn ar dudalen prosiect Ar y Dibyn.
Mae Iola Ynyr wedi bod yn arwain y prosiect ers y cychwyn cyntaf, ac mae’n fraint ganddi ei weld yn parhau i ddatblygu:
"Mae hi’n bleser gweld y prosiect yn tyfu gyda chyfraniad creadigol Bethan Marlow. Mae Ar y Dibyn yn cynnig gofod diogel i brosesu a dychmygu ymatebion creadigol i heriau bywyd fel a wneir yn yr addasiad o nofel Alys Conran. Mae’n dangos y gall profiadau theatraidd proffesiynol gynnig gwaddol creadigol ehangach wrth gynnal elfennau cyfranogol eang.Mae hi’n bwysig cydnabod creadigrwydd sydd o fewn unigolion sydd yn aml wedi eu heithrio yn gymdeithasol, sydd yn cynnig mewnwelediad unigryw i fywyd yn y Gymru gyfoes. Mae nifer o’r cyfranogwyr yn dychwelyd at y cynllun am eu trydydd tro ac yn trafod eu rolau fel mentoriaid ar gyfer y dyfodol.
Croesewir nifer cynyddol o artistiaid proffesiynol sy’n datblygu eu sgiliau arloesol o weithio gyda cyfranogwyr bregus gyda dewrder ac uchelgais i gyrraedd safon artistig uchel. Rhoddir bri ar fentro yn greadigol o fewn awyrgylch o gefnogaeth gofalgar yn yr iaith Gymraeg sydd yn gynnig profiadau gwerthfawr i gyfranogwyr tra hefyd yn hyrwyddo llesiant artistiaid eu hunain i arbrofi gyda’u gwaith personol.
Mae’r prosiect yn tystio i ymrwymiad Theatr Genedlaethol Cymru i gynnig profiadau cyfranogol hirdymor i unigolion a chymunedau wedi eu heffeithio gan ddibyniaeth ac i sefydlu llesiant trwy greadigrwydd a’r celfyddydau mewn modd cynhwysol a chyhyrog."

Yn ymuno gyda Bethan ac Iola hefyd mae’r artist Iestyn Tyne, y cwnselydd Carwyn Jones a’r cyfieithydd Lowri Gwyn – ac mae’r tîm cyfan yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod yr ystafell yn lle diogel ac agored a bod y cyfranogwyr i gyd yn cael eu cefnogi i allu mynegi eu hunain yn y ffordd sy’n teimlo fwyaf cyfforddus iddyn nhw. Ry’n ni’n falch iawn o’n cynhyrchydd Nia Skyrme sydd wedi cydlynnu’r prosiect ac wedi helpu i ddod a’r tim anhygoel yma at ei gilydd ers y cychwyn.
Ry’n ni’n ddiolchgar iawn am nawdd gan Fwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru, a chefnogaeth GISDA sydd wedi ein galluogi i barhau i ddatblygu’r prosiect ac adeiladu ar y gwaith cadarnhaol a wnaed hyd yma.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cliciwch yma i fynd i dudalen Ar y Dibyn ar ein gwefan.