Ydych chi’n mwynhau creu cynnwys digidol difyr a deniadol? A hoffech chi ein helpu i gyfathrebu am waith Theatr Genedlaethol Cymru? Dyma’r swydd i chi!
Ry’n ni’n edrych am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â ni. Ry’n ni’n awyddus i glywed gennych os ydych chi’n gyfathrebwr effeithiol sy’n gallu ymgysylltu’n dda gyda chynulleidfaoedd. Mae angen eich bod chi’n mwynhau creu a golygu cynnwys digidol o safon uchel ac yn awyddus i weithio mewn amgylchedd byrlymus a chyffrous.
Bydd y Swyddog Marchnata yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu er mwyn gweithredu Strategaeth Marchnata a Chyfathrebu’r cwmni. Mae’r strategaeth newydd yn gosod pwyslais ar farchnata digidol, tra hefyd yn cynnal perthynas gyda chynulleidfaoedd trwy ddulliau mwy traddodiadol. Bydd y Swyddog yn gyfrifol am reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol y cwmni, gan gydlynu ac amserlenni cynnwys difyr, diddorol a chyson.
Cyflog: £27,923
Cyfnod: Parhaol
Oriau: Llawn Amser (37.5 awr yr wythnos)
Am fwy o wybodaeth am y swydd a’r cwmni, darllenwch y pecyn recriwtio isod.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd – neu i drafod sut y gallwn ni eich cefnogi i ymgeisio am y swydd - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar angharad.leefe@theatr.com neu 07903 842554.
Dyddiad cau: 4 Tachwedd, 5pm
Cyfweliadau: 12 Tachwedd 2024
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd a’r cwmni, darllenwch y pecyn recriwtio isod. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig – yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r cwmni yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu hyfforddiant gloywi iaith os ydynt am ddatblygu eu hyder yn eu sgiliau iaith Gymraeg.
Mae fersiwn Saesneg o’r pecyn recriwtio ar gael mewn fformat Microsoft Word er mwyn hwyluso’r defnydd o ddarllenydd sgrin. Gellir dod o hyd i hwn drwy ddilyn y ddolen isod:
Mae gofyn i ymgeiswyr gwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb isod wrth ymgeisio: