Newyddion 14/08/2021

Rhyddhau EP Gwlad yr Asyn

Illustration. Yellow circle in centre of the image with different coloured flowers and leaves around the edge. In the centre of the circle there is a true-to-life illustration of a donkey. Text on the image reads translated ‘Donkey Land’

I gyd-fynd â chychwyn ein taith gyntaf ers y cyfnod clo, mae EP wedi’i ryddhau heddiw drwy Recordiadau Udishido sy’n cynnwys 5 cân sy’n rhan o’r cynhyrchiad theatr, Gwlad yr Asyn, ac sy’n cael eu perfformio’n fyw yn y sioe.

 

Gallwch wrando ar y caneuon fan hyn.

 

Gyda geiriau gan y dramodydd Wyn Mason, mae’r gerddoriaeth wedi’i gyfansoddi, ei gynhyrchu a’i berfformio gan Samiwel Humphreys a Bethan Rhiannon (Calan, Pendevig, NoGood Boyo, Shamoniks), gyda chyfraniadau hefyd gan Gwenllian Higginson.

O 10 i 26 Awst, bydd Gwlad yr Asyn, cyd-gynhyrchiad newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr, yn teithio lleoliadau ledled Cymru. Ar ôl agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, bydd yn teithio i lwyfannau awyr agored yn Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug), Plas Glyn-y-Weddw (Llanbedrog, ger Pwllheli), Pontio (Bangor), Parc Gwledig Pen-bre (trwy Theatrau Sir Gâr) a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth.

 

Wedi ei chyfarwyddo gan Steffan Donnelly, mae’r ddrama ddireidus hon yn gyfuniad o alegori, dychan, caneuon a cherddoriaeth fyw, ac mae’n cynnwys tri pherfformiwr: yr actores Gwenllian Higginson (Merched Caerdydd, Macbeth, Enid a Lucy, 35 Diwrnod) a’r cyfansoddwyr a cherddorion Samiwel Humphreys a Bethan Rhiannon.

 

Cewch ragor o wybodaeth am gynhyrchiad Gwlad yr Asyn a manylion sut i archebu tocynnau fan hyn.