Newyddion 08/07/2024

Drama, chwerthin, a sgwrsio gyda Siân Phillips: Mis tan Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024

Image of Bren Calon Fi rehearsals. 4 women are sat around a table. Lowri Morgan is a young white woman with blonde hair. Rhiannon Mair is a woman in her thirties with shoulder-length brown hair and wearing and orange jumper. Rhian Blythe is a white woman in her forties with shoulder-length reddy-brown hair. Bethan Marlow is a woman in her thirties with very short brown hair. They are all sitting around a table listening as Bethan speaks.

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn brysur agosáu, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi rhaglen llawn o ddrama, gomedi ac artistiaid arbennig ar y Maes eleni.

Brên. Calon. Fi
YMa, 6 – 9 Awst 4pm


Bydd wythnos Theatr Gen ar y Maes yn cychwyn gyda Brên. Calon. Fi, monolog ddoniol a thyner gan Bethan Marlow, yng nghanolfan YMa fel rhan o arlwy Mas ar y Maes. Gyda’r cyfarwyddwr Rhiannon Mair wrth y llyw, bydd yr actor Lowri Morgan yn serennu fel ‘Fi’, storïwr y fonolog sy’n mynd â’r gynulleidfa ar daith o’i bywyd carwriaethol – y crushes cyfrinachol, y caru lletchwith a’r tor-calon blêr. Yn cefnogi Rhiannon Mair i ddod â Brên. Calon. Fi i’r llwyfan, mae’r Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Livia Jones, Cynllunydd Goleuo, Cara Hood, a'r Cynllunydd Sain, Josh Bowles.

Image from Bren Calon Fi rehearsals with Lowri Morgan, Rhiannon Mair, and Bethan Marlow. The rehearsal space has white walls with a painted orange border around the bottom. Bethan is sat at a table with her laptop looking at Lowri who has her back to the camera. Rhiannon stands next to Bethan.

Ha/Ha
Caffi Maes B, 6 – 8 Awst 5pm

 

Bydd Theatr Gen a Theatr Clwyd yn cyflwyno Ha/Ha yng Nghaffi Maes B, awr wyllt o ddramâu comedi byr newydd sbon gan Caryl Burke, Mari Elen, Geraint Lewis a Gruffydd Ywain gyda chyflwyniad gan Hannah Daniel. Yn adeiladu ar lwyddiant cyd-gynhyrchiad diwethaf y sefydliadau, sef Rŵan/Nawr yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, bydd y cyfarwyddwyr Daniel Lloyd a Rhian Blythe yn ôl eleni gyda chast penigamp – Dion Davies, Caitlin Drake, Lowri Gwynne, Leilah Hughes a Dewi Wykes – a cherddoriaeth fyw gan Barnaby Southgate. Livia Jones sy’n cynllunio’r set a’r gwisgoedd unwaith eto.

Image of 5 actors in rehearsals for Rwan Nawr. The same actors are returning for Ha/Ha. From left to right: Dewi Wykes is a white man in his twenties kneeling on the ground. Behind him Dion Davies stands, a white middle-aged man with arms outstretched. Caitlin Drake stands in the middle, a young white woman with arms stretched to the sky. In front of Caitlin is Leilah Hughes, a young mixed-race woman kneeling with arms stretched to the sky. Behind Leilah is Lowri Gwynne, a white woman in her thirties. .

Yn ogystal â’r ddau gynhyrchiad hwn, bydd cyfle i fynychwyr yr Eisteddfod weld Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Steffan Donnelly, mewn sgyrsiau ar hyd a lled y Maes.

 

Sgwrs gyda Siân Phillips
Y Babell Lên, 10 Awst 11.30am

Bydd Steffan Donnelly yn holi’r eicon Siân Phillips am ei bywyd, ei gyrfa, a’i phrofiad o gystadlu ac adrodd yn blentyn. Bydd Siân yn trafod ei pherthynas gyda gwaith Saunders Lewis, effaith yr Eisteddfod a diwylliant Cymraeg ar ei gyrfa, a’i phrofiad fel actores byd-enwog.

 

Paned o Gê: Paned gyda Steffan Donnelly a Lowri Morgan
Stondin Paned o Gê, 7 Awst 1pm

Ymunwch â Steffan a Lowri i glywed mwy am gynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Brên. Calon. Fi. Bydd Lowri yn serennu yn y fonolog ddoniol a thyner yma gan Bethan Marlow, sy'n llawn cariad, tor-calon, a chwant lesbiaid.

 

Cyfieithu creadigol: Llenyddiaeth Gymraeg yn croesi ffiniau
Cymdeithasau 1, 5 Awst 2pm

Bydd Steffan hefyd yn ymuno â Gruffudd Owen a Megan Angharad Hunter mewn trafodaeth am werth cyfieithu llenyddiaeth i'r awdur ac i'r diwydiannau creadigol. Wedi’i gadeirio gan Elin Haf Gruffydd Jones ar ran Cyfnewidfa Lên Cymru, bydd y cyfranwyr yn trafod eu gwaith a rôl cyfieithu mewn perthynas â chyrraedd cynulleidfaoedd ar draws y byd.

Mae Steffan Donnelly yn edrych ymlaen yn arw at wythnos brysur ar y Maes ym Mhontypridd eleni:


“Ar ôl wythnos anhygoel ym Mhen Llŷn y llynedd, dwi’n edrych ymlaen at ddychwelyd eleni gyda rhaglen gyffrous o ddrama, comedi, a sgyrsiau o bob math. ‘Da ni wedi dod a thîm creadigol a hanner at ei gilydd, yn cynnwys artistiaid a llawryddion sy’n hen ffrindiau i’r cwmni a rhai newydd sy’n gweithio gyda ni am y tro cyntaf. Dwi methu aros i rannu’r holl bethau gwych sydd ar y gweill ac i fod yng nghanol bwrlwm y Maes eto.”