Newyddion 17/07/2024

Dawns y Ceirw: Casi Wyn yn arwain gwledd o stori, dawns a cherddoriaeth

Title treatment for Dawns y Ceirw. An illustrated light blue reindeer head has the words Dawns y Ceirw laid out inside the shape.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn llawn cyffro i gydweithio ar Dawns y Ceirw, yn teithio ledled Cymru y gaeaf hwn.  Yn cyfuno dawns, cerddoriaeth wreiddiol ac antur aeafol, dyma addasiad llwyfan o stori blant wreiddiol gan Casi Wyn, dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwyr Artistig y ddau gwmni, Steffan Donnelly a Matthew William Robinson.

Bydd Casi Wyn ei hun yn serennu fel storïwr ac yn perfformio cerddoriaeth wreiddiol iddi ei gyfansoddi yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad. Mae Casi yn wyneb cyfarwydd i Gymry o bob oed fel cantores, cyfansoddwr ac yn ei rôl fel Bardd Plant Cymru 2022-2023. Yn ymuno gyda Casi ar y llwyfan fydd dau o sêr byd dawns Cymru: Osian Meilir, coreograffydd a dawnsiwr sy’n rhan o’r sioe eiconig Qwerin, a’r ddawnswraig Sarah ‘Riz’ Golden, sy’n perfformio’n rheolaidd gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Yn y stori swynol hon, mae Carw bach unig yn penderfynu mynd ar antur hudolus trwy’r goedwig gan ddilyn golau bach disglair.

Yng nghanol bwrlwm cyhoeddi’r daith, meddai Casi:

"Edrychaf ymlaen i lwyfannu a rhannu'r stori newydd hon gyda phlant a theuluoedd Cymru. Mae hi wedi bod yn foddhad datblygu'r weledigaeth gyda Theatr Genedlaethol a Chwmni Dawns Cenedlaethol hyd yma."

Headshot of Casi Wyn. She is a white woman in her early thirties with blue eyes and blonde hair tied up into a ponytail at the top of her head. She is smiling lightly and looking directly into the camera.

Dyma’r tro cyntaf i'r ddau gwmni gydweithio, a hynny gyda darn sy’n dod â’r ddau Gyfarwyddwyr Artistig ynghyd. Ers ymuno gyda Theatr Gen yn 2022, mae Steffan wedi cefnogi datblygiad artistig artistiaid a llawryddion ledled y wlad trwy brosiectau amrywiol yn ogystal â chyfarwyddo tair sioe, gan gynnwys Rhinoseros, a’i restrwyd fel un o 50 sioe orau 2023 gan The Stage. Ers ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru yn 2021, mae Matthew wedi datblygu cydweithrediadau, prosiectau a rhaglenni artistig beiddgar ar gyfer y cwmni. Gyda phroffil artistig cyfoethog, mae’r cwmni’n adlewyrchu Cymru gyfoes ar lwyfan rhyngwladol gyda balchder.

Fel cyfarwyddwyr y sioe arbennig hon i blant, mae Steffan a Matthew yn dod â thîm creadigol talentog at ei gilydd. Daw byd gaeafol a dirgel Dawns y Ceirw yn fyw ar y llwyfan dan arweiniad y Dylunydd Set a Gwisgoedd Tomás Palmer (Dreaming and Drowning, Blue Mist). Does dim amheuaeth y bydd gweledigaeth hudolus Tomás ar gyfer y sioe yn aros yng nghôf cynulleidfaoedd am amser i ddod. Edrychai’r ddau gwmni ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth am y tîm creadigol llawn yn fuan.

Wrth edrych ymlaen at y daith, dywedodd Matthew:

“Ysgrifennu hyfryd Casi Wyn sydd wedi ysbrydoli y cydweithio cyffrous yma. Dw’i methu aros i rannu Dawns y Ceirw gyda chynulleidfaoedd dros Gymru.”

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o weld tîm creadigol dawnus yn dod a’r sioe yn fyw o’r sgript i’r llwyfan. Wrth drafod y cydweithio rhwng yr artistiaid a’r ddau gwmni cenedlaethol, meddai Steffan Donnelly:

“Mae cydweithio wrth galon ein ffordd o greu theatr a mae'n fraint datblygu partneriaeth gyda chwmni cenedlaethol arall ar y cynhyrchiad yma. Dwi'n methu aros i fod yn yr ystafell ymarfer gyda Casi, Matthew a'r criw lle fydd llawer o ganu, dawnsio a dyfeisio. Mae’r cynlluniau sydd gennym ni ar eich cyfer yn hynod gyffrous - stori freuddwydiol, canu ysbrydoledig, a syrpreisys gweledol - a dwi'n edrych ymlaen i gynulleidfaoedd ifanc ar draws y wlad neidio mewn i fyd y sioe.”

Nid yn unig o fewn y theatr y bydd cyfle i gynulleidfaoedd ifanc fwynhau. Bydd Sian Elin James, Cydlynydd Cyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru, yn arwain cyfres o weithdai cyffrous mewn ysgolion ledled Cymru, gyda’r artistiaid Casi Wyn ac Osian Meilir. Cerddoriaeth, symudiad, a ‘sgwennu fydd canolbwynt y gweithdai hyn fydd yn rhoi mewnwelediad i’r sioe a’i themâu i Gymry ifanc. Os oes diddordeb gennych i’ch dosbarth fynychu perfformiad o’r sioe a threfnu gweithdy, cliciwch yma i lenwi ffurflen mynegi diddordeb.

Image of Sian Elin James in workshop. Children in school uniform are stood in the background. Sian Elin is a white woman in her twenties with long dark hair. She is looking towards someone and giving them a big thumbs up.

Bydd Dawns y Ceirw yn agor yng nghartref y Cwmni Dawns, sef Tŷ Dawns, Caerdydd ar 21 Tachwedd ac yna’n teithio ledled Cymru tan 6 Rhagfyr. Bydd Cathryn McShane yn ymuno gyda ni mewn rhai perfformiadau ar hyd y daith fel dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Bydd y perfformiadau ar 27 Tachwedd yng Nghanolfan Celfyddydau Memo, Y Barri, a'r ddau berfformiad ar 5 Rhagfyr yn Galeri Caernarfon yn cael eu dehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gan Cathryn.