Newyddion 04/01/2024

Angharad a Steffan ar restr The Stage 100

image of steffan donnelly and angharad leefe. steffan is a white male with short brown curly hair and blue eyes. he wears a light blue knitted jumper and jeans. angharad is a white woman with brown shoulder length hair. she wears a leopard print jacket with a black top under.

Ry’n ni’n cychwyn 2024 gyda’r newyddion bod Angharad Jones Leefe a Steffan Donnelly – ein Cyd-Brif Weithredwyr – wedi’u cynnwys yn The Stage 100 fel dau o’r bobl mwyaf dylanwadol ym myd y theatr.

Bellach yn ei 27ain blwyddyn, mae The Stage 100 yn rhestri’r bobl mwyaf ddylanwadol yn niwydiant theatr a’r celfyddydau perfformio yn y DU. Mae’n canolbwyntio ar lwyddiannau’r 12 mis diwethaf ac, wrth gynnwys Angharad a Steffan ar y rhestr, nododd The Stage bod y ddau yn frwd dros bwysigrwydd diwylliant Cymreig ac amlygrwydd y weledigaeth hon yng ngwaith diweddaraf y cwmni.

Yn ddiweddar, mae Theatr Genedlaethol Cymru hefyd wedi’i enwebu gan The Stage fel Cynhyrchydd y Flwyddyn. Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni ar 29 Ionawr 2024. Cewch ragor o wybodaeth am yr enwebiad fan hyn.

Llongyfarchiadau anferthol i Angharad a Steffan ar y llwyddiant yma – ry'n ni gyd mor falch o weld cydnabyddiaeth cenedlaethol i’ch holl waith caled. Ymlaen i 2024!