Galwad agored ar gyfer gweithdai cyfieithu

Rydym yn falch o gefnogi galwad agored heddiw gan Literature Across Frontiers i gynnig nifer cyfyngedig o lefydd mewn gweithdai fel rhan o’u rhaglen ‘Datblygu Cyfieithu Llenyddol yng Nghymru’ a gefnogir gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Nod y rhaglen yw grymuso sgwennwyr a chyfieithwyr llenyddol drwy roi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau cyfieithu ym meysydd barddoniaeth, rhyddiaith a’r theatr yng nghwmni rhai o ysgrifennwyr mwyaf cyffrous Cymru.

Bydd y gweithdai barddoniaeth a rhyddiaith yn cael eu cynnal yng Nghaernarfon a’r gweithdai theatr yng nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru. 

Am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio, cliciwch yma i fynd i wefan Literature Across Frontiers.