"Pan mae'r nos yn effro fel hyn, gall unrhyw beth ddigwydd...”
Pop glas, Jäger bombs a sgrolio Tinder.
Gweiddi chwil a karaoke yw curiad y ddinas.
Strydoedd yn llawn “livin’ for the weekend”…
Mae Lottie ar noson allan sy'n wahanol i bob noson allan gynt. Wrth i’r noson hwyrhau a Lottie’n ymgolli yn ei hatgofion, mae'r ffin rhwng realaeth a dychymyg yn chwalu ac mae’n cychwyn ar daith o faddeuant, hunan-ddarganfod a dawnsio fel bod neb yn edrych!
Yn ddinesig, yn ddoniol ac yn dywyll, dyma ddrama newydd gan Mared Jarman am gariad, colled a bywyd fel pobl ifanc anabl mewn byd sy’n blaenoriaethu’r brif ffrwd. Bydd Mared – sy’n llais newydd a chyffrous i fyd y theatr Gymraeg - hefyd yn ymddangos fel Lottie, ochr yn ochr â’i chyd-actor Paul Davies, dan gyfarwyddyd Rhian Blythe.
Gyda chefnogaeth gan Craidd.
Canllaw Oed: 16+
Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed
Bydd capsiynau a sain ddisgrifiad ar gael ym mhob perfformiad, a theithiau cyffwrdd dan ofal ein Sain Disgrifiwr, Eilir Gwyn, cyn pob sioe am 18:30. Cysylltwch â'r ganolfan berthnasol i gadw lle ar daith gyffwrdd.
Dyddiadau’r Daith
-
25 Ion 202519:30RhagddangosiadTheatr y Sherman, Caerdydd
-
27 Ion 202519:30RhagddangosiadTheatr y Sherman, Caerdydd
-
28 Ion 202519:30Perfformiad bywTheatr y Sherman, Caerdydd
-
29 Ion 202519:00Perfformiad bywTheatr y Sherman, Caerdydd
-
30 Ion 202519:30Perfformiad bywTheatr y Sherman, Caerdydd
-
31 Ion 202519:30Perfformiad byw (Ffilmio)Theatr y Sherman, Caerdydd
-
03 Chwef 202519:30Perfformiad bywFfwrnes, Llanelli
-
05 Chwef 202519:30Perfformiad bywY Stiwt, Rhosllanerchrugog
-
08 Chwef 202519:30Perfformiad bywPontio, Bangor
-
11 Chwef 202519:30Perfformiad bywGaleri, Caernarfon
-
13 Chwef 202519:30Perfformiad bywTheatr Felinfach, Dyffryn Aeron
Lottie Mared Jarman
Bennie a chymeriadau eraill Paul Davies
Awdur Mared Jarman
Cyfarwyddwr Rhian Blythe
Ffotograffiaeth Mefus Photography
Dylunio Graffeg Kelly King
-
Taflen Sain | Byth Bythoedd Amen