Rhiannon Mair - Arweinydd Pair
Wedi graddio mewn Theatr, Ffilm a Theledu, bu Rhiannon Mair yn gweithio fel actores, yn bennaf i gwmni Theatr Arad Goch. Dychwelodd i Brifysgol Aberystwyth i astudio M.A. Ymarfer Perfformio dan arweinyddiaeth Mike Pearson, cyn symud i Brifysgol De Cymru, lle bu’n ddarlithydd ar y radd BA Theatr a Drama am ddegawd. Yn ystod ei chyfnod yno, wedi’i hysbrydoli gan ei diddordeb mewn gofod a defod, cwblhaodd ddoethuriaeth rhannol ymarferol yn dwyn y teitl ‘Y Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad’ – yn ogystal â chael dau o blant! Mae hi wedi dyfeisio gwaith yn unigol, gyda grwpiau, ac mewn perfformiadau ar y cyd gydag Eddie Ladd, a’r artist Lowri Davies. Mae Rhiannon bellach yn gweithio fel Ymarferydd Theatr a Pherfformio ac Ymchwilydd Creadigol. Yn ddiweddar creodd berfformiad storïol oedd yn edrych ar gymhlethdod effaith tai haf yn Sir Benfro i Theatr Volcano.