Mae datblygu sgiliau sgwennwyr ifanc yn bwysig iawn i ni yn Theatr Gen ac mae’n Cynllun Dramodwyr Ifanc wedi bod yn rhedeg ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru a S4C a BBC Studio ers dwy flynedd bellach.
Roedden ni'n hynod o ffodus i gael cydweithio â’r Urdd unwaith eto ar brosiect oedd yn rhoi cyfle i rai o'n dramodwyr ifanc ysgrifennu a chyfansoddi sgriptiau newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023.
Daethom â 6 dramodydd ifanc sydd â chysylltiadau gyda Sir Gâr ynghyd i dreulio cyfnod o 6 wythnos yn datblygu eu syniadau drwy fentora a chefnogaeth ysgrifennu gan y cyfarwyddwr Sarah Bickerton.
Enwau’r dramodwyr yw:
Hefin Robinson
Mirain Jones
Del Evans
Mared Roberts
Martha Ifan
Rhiannon Williams
Mae’r sgriptiau gan y dramodwyr ifanc yn seiliedig ar chwedlau wedi’u ’i lleoli yn Sir Gâr ac yn addas i ddisgyblion ysgolion cynradd blwyddyn 5 a 6. Y nod yw y bydd plant cynradd y sir yn perfformio’r gwaith newydd yma ar faes Eisteddfod yr Urdd, dan gyfarwyddyd Carys Edwards a chriw creadigol, yn ogystal ag athrawon y sir.
Prosiectau Eraill
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Fel rhan o brosiect rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd