Daeth Criw Creu yn ôl eto yn 2024! Prosiect creadigol yw Criw Creu sy’n cael ei arwain gan Theatr Cymru gyda chefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru.
Y tro hwn, roeddem yn falch iawn o weithio gyda grŵp o droseddwyr ifanc rhwng 14 a 18 oed o Garchar y Parc ger Penybont-ar-Ogwr a chynnig cyfleoedd iddyn nhw gydweithio gydag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol.
Dywedodd Jamie Williams o Garchar y Parc:
'Fel rhan o'r rhaglen gyfoethogi ein nod yw cynyddu hyder, hunan-barch, gwaith tîm, datrys problemau, sgiliau cyfathrebu a sgiliau arwain y plant. Tra bod y plant hyn yn y ddalfa rydym yn canolbwyntio ar feithrin y sgiliau ymaddasol megis parch, gwerthoedd craidd, sgiliau cyflogadwyedd, gwaith tîm, datrys problemau a chreadigedd. Trwy weithio ar y cyd ag asiantaethau allanol a ffurfio partneriaethau fel yr un yma hefo Theatr Cymru bydd y plant cymhleth hyn yn cael pob cyfle i lwyddo mewn bywyd gyda’r prif ffocws ar leihau aildroseddu.’
Prosiectau Eraill
-
Ar y Dibyn
Mae prosiect Ar y Dibyn yn rhoi cyfle i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddibyniaeth – boed hynny’n bobl sy’n byw gyda dibyniaeth neu sy’n cefnogi pobl eraill gyda’u dibyniaeth – i ddod at ei gilydd a rhannu’r straeon hynny mewn ffyrdd creadigol.
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Fel rhan o brosiect rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Ha/Ha
Ry'n ni a Theatr Clwyd yn chwilio am artistiaid mwyaf doniol Cymru i ddechrau prosiect newydd sbon.