Prosiect ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Mentrau Iaith Cymru ddaeth â phlant Cymru ynghyd i fwynhau amrywiaeth o weithdai dros Zoom. Roedd y sesiynau rhain – a'u trefnwyd gennym ni yn Theatr Genedlaethol Cymru gyda chyfleoedd i ddawnsio, perfformio a chreu cymeriadau – yn addas i blant ysgolion cynradd o flynyddoedd 2 i 6.
Yr arbenigwyr yn arwain ar yr hwyl oedd Owen Alun, Jalisa Andrews, Ffion Wyn Bowen a Sian Elin. Roedd pob Menter Iaith ar draws Cymru yn rhan o’r cynllun, a chyfranogwyr yn dod o bob ardal drwy Gymru.
Ers nifer o flynyddoedd, ry’n ni wedi gweithio’n agos gyda Mentrau Iaith yng ngorllewin Cymru i ddarparu Clybiau Drama wythnoso;. Clwb Theatr Cymru dros yr haf yn 2020 oedd y tro cyntaf i’r cwmni weithio mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru i ddod â’r holl fentrau ledled Cymru ynghyd a darparu gwaith cyfranogi ar y raddfa hon.
"Mae Osian wrth ei fodd yn perfformio yn actio, dawnsio neu canu. Mae o isio fod yn actor neu mewn musical! Diolch unwaith eto am y sesiynau yn bendant un mantais o’r COVID yma oedd i Osian bod yn rhan o’r sesiynau." Rhiant
Fel rhan o Clwb Theatr Cymru yn haf 2020, daeth 118 o blant o ardaloedd 18 Menter Iaith ledled Cymru at ei gilydd i fwynhau sesiynau wythnosol ar-lein. Gwyliwch y fideo sy'n adrodd yr hanes isod:
Clwb Theatr Cymru Nadolig
Yn dilyn llwyddiant ysgubol Clwb Theatr Cymru yn ystod haf 2020, trefnwyd rhagor o sesiynau ar y cyd â Mentrau Iaith Cymru ar gyfer y Nadolig – Clwb Theatr Cymru Nadolig.
Roedd y sesiynau hyn – dan arweiniad Richard Elis, Jalisa Andrews a Sian Elin - yn gyfle i blant drwy Gymru fwynhau sesiynau pantomeim a dawns yn ystod gwyliau’r Nadolig 2020. Cafwyd llawer iawn o hwyl a sbri gan bawb!
Prosiectau Eraill
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Fel rhan o brosiect rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd