Mae pobl ifanc o Balestina a Chymru wedi bod yn cyfarfod ar-lein i greu gofod am gydweithio creadigol ac i feddwl, teimlo ac ysgrifennu gyda'i gilydd.
Mewn prosiect newydd rhyngwladol rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae'r cyfranogwyr ifanc o'r ddwy wlad wedi bod yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai, gyda’r bwriad o ddenu sylw i leisiau ieuenctid a meithrin dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol.
Gyda Sian Elin James, ein Cydlynydd Cyfranogi yn Theatr Cymru, a Konrad Suder Chatterjee, Swyddog Cyfathrebu a Datblygwr Adnoddau i Theatr Ashtar, arweinir y gweithdai gan y beirdd Alice S. Yousef a Nia Morais.
Gyda chefnogaeth hefyd gan Llenyddiaeth Cymru, penllanw’r prosiect fydd creu cerdd tair-ieithog mewn Arabeg, Cymraeg a Saesneg, yn ogystal â ffilm fer sy’n cynnwys cyfranogwyr ifanc o Gymru a Phalesteina.
Ry'n ni methu aros i rannu'r gwaith yma gyda chi.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw nod y prosiect?
Nod y prosiect yw cynnig cyfleoedd i bobl ifanc o Balesteina a Chymru i ymgymryd â chyfnewid diwylliannol, deialog a chydweithio ystyrlon. Mae'r gweithdai yn grymuso cyfranogwyr ifanc i rannu eu straeon (os ydyn nhw eisiau) a safbwyntiau, wrth hefyd ddatblygu eu sgiliau artistig a hyder.
Sut ydyn ni'n gwarchod cyfranogwyr?
Mae'r prosiect hwn yn dathlu mynegiadau artistig pobl ifanc ym Mhalestina a Chymru ond hefyd yn cydnabod yr heriau mawr o wrthdaro a dadleoli sy'n wynebu'r cyfranogwyr o Balestina. Mae ASHTAR Theatre a Theatr Cymru yn meithrin awyrgylch cefnogol ac yn creu gofod diogel i'r holl gyfranogwyr rannu eu teimladau. Mae'r sefydliadau yn cynnal sesiynau di-briff reolaidd, gan drafod unrhyw bryderon diogelu sy'n codi.
Prosiectau Eraill
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd
-
Connect Up
Mae Theatr Genedlaethol Cymru – ochr yn ochr â Galactig – yn falch iawn o fod yn bartner technegol ar brosiect Connect Up.