Ers 2019 mae Ar y Dibyn, dan arweiniad Iola Ynyr wedi cynnig gweithdai creadigol ledled Cymru, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i gefnogi rhai wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth. 

Bwriad y prosiect yw annog creadigrwydd i brosesu ein profiadau o’r byd trwy weithdai a gweithgareddau creadigol i brocio ein dychymyg a rhyddhau syniadau. Y gobaith yw datblygu gwaith o’r galon sy’n bwerus, dewr ac uchelgeisiol, o fewn gofod diogel lle gellir mynegi ein hunain yn rhydd, heb feirniadaeth.  

Mae diogelu llesiant ac iechyd meddwl ein cyfranogwyr a’n hartistiaid yn allweddol oherwydd natur emosiynol y prosiect, ac mae arbenigwyr iechyd proffesiynol ar gael i gefnogi ym mhob sesiwn, i roi cyngor neu i sgwrsio pan fod angen. 

 

Sesiynau Ar y Dibyn 2026:

Cyfres o bedwar gweithdy blasu ar-lein, pob un yn para awr a hanner, sy’n defnyddio ysgrifennu creadigol fel ffordd o fyfyrio ar hunan fynegiant.

Mae’r gweithdai’n agored i gyfranogwyr hen a newydd sydd wedi eu heffeithio gan ddibyniaeth o unrhyw fath, ac yn cynnig cyfle i gysylltu ag eraill mewn amgylchedd diogel a chynhwysol heb feirniadaeth.

Bydd pob sesiwn yn cael ei harwain gan awdur Cymraeg gwahanol, gan archwilio thema benodol a genre ysgrifennu unigryw, gyda Check-in a Check-out gyda aelod o'r tîm craidd o’r prosiect i greu cysondeb a chysylltiad diogel i’r cyfranogwyr.

Nid oes rhaid i neb rannu na chyfrannu os nad ydynt am wneud – mae croeso i bawb gymryd rhan cymaint neu cyn lleied ag sy’n gyfforddus iddyn nhw.

Mae hefyd yn bosib i ymuno â gweithdai wyneb yn wyneb os ydych yn byw mewn ardal lle mae grŵp eisioes yn bodoli, neu os oes digon o ddiddordeb mewn ardal penodol neu arlein i greu grŵp newydd.

Dyma themâu a chyfranwyr y pedwar sesiwn sydd i ddod, ond mae manylion pellach am y sesiynau/ yr arweinwyr isod.

 

Sesiwn 1: 27 IONAWR 2026. 12:30-14:00 

Ysgrifennu ymlaciol
Dan arweiniad Bethan Marlow 

Myfyrio ar newid, dechreuadau newydd - Ymarferion ysgafn ymlaciol.

 

Sesiwn 2: 25 CHWEFROR 2026. 12:30-14:00 

Barddoniaeth a geiriau  

Dan arweiniad - clare e. potter 

 

Sesiwn 3: 24 MAWRTH 2026. 12:30-14:00 

Dychmygu Deialog 

Dan arweiniad Mared Llywelyn 

 

Sesiwn 4: 21 EBRILL 2026. 12:30-14:00 

Rhoi Llais i Hunaniaeth

Dan arweiniad Gareth Evans-Jones 

Ysgrifennu sydd yn adlewyrchu ein profiadau personol, a’r pethau sy’n ein gwneud yn unigryw. 

 

Cofrestrwch drwy ddolen Forms neu cysylltwch â Nia am fwy o wybodaeth: nia.skyrme@theatr.com

Gallwch weld gwaith blaenorol prosiect Ar y Dibyn yma.

 

Diolch enfawr i cefnogaeth ein artistiaid, cwnselwyr a chyfieithwyr:

Alaw GriffithsAnn Catrin EvansCai Tomos, Carwyn Jones, Iestyn Tyne, Katy Mai Mared Llywelyn, Mari Elen, Mirain Fflur, Lowri Gwyn - Lingo Cyf, Sioned Lewis a’r Cynhyrchwyr Nia Wyn Skyrme a Gwenan Pennant Jones.

 

Diolch i’n noddwyr blaenorol a chyfredol:

Llenyddiaeth Cymru Adra (Tai), Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta)Meddwl.org, Grymuso Gwynedd drwy Fenter Môn, Bwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Ardal Gogledd Cymru. 

 

A diolch i'n partneriaid cefnogol hefyd sef AMCaniad, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, ICan/Gisda, Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr, Galeri CaernarfonGorwel, Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau (Isgraig, Llangefni a Bron Castell, Caernarfon), Gwasanaeth Prawf Gwynedd a MônMaes NiKaleidoscope, Pontio Bangor, Shelter CymruAdferiad WAHWN.

CYMORTH YCHWANEGOL 

Cyffuriau neu Alcohol

DAN 24/7 

Y cam cyntaf i gael yr help sydd ei angen arnoch yw sylweddoli bod gennych broblem gyda chyffuriau neu alcohol a siarad â rhywun amdano. Os ydych chi'n poeni am eich defnydd o gyffur neu alcohol neu ddefnydd ffrind neu rywun annwyl i chi, lle da i ddechrau yw cysylltu gyda DAN 24/7 sy'n Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol i Gymru. 

Mae'n llinell gymorth ddi-dal, dwyieithog a chyfrinachol sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau. 

Rhif ffôn: 0808 808 2234 (Ni fydd rhif ffôn DAN 24/7 yn ymddangos ar eich anfoneb eitemedig gartref) 

Tecstiwch DAN ar 81066 

Ewch i dan247.org.uk 

 

Adferiad Recovery 

adferiad.org.uk 

01792 816600 

Ebost: info@adferiad.org.uk 

 

CAMFA  

Yn cynnig sesiynau cwnsela os wedi dioddef o broblemau/ yn dioddef o broblemau yn ymwneud a chamddefnydd alcohol neu/a  chyffuriau.  

https://www.cais.co.uk/services/camfa/ 

 

Iechyd Meddwl 

C.A.L.L Helpline (Llinell wrando a Chymorth Cymunedol)

Yn cynnig gefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru. 

Mae gan unrhyw un sy'n bryderus am iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind, mynediad i'r gwasanaeth. C.A.L.L, yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth cyfrinachol. 

Ffon di-dal 0800 132 737 

Neu tecstiwch HELP i 81066

 

Cartrefi diogel yng Nghymru

Shelter Cymru

Yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru. 

Cartref - Shelter Cymru

08000 495 495

 

Cyngor ar drais/ cam-drin domestig a thrais rhywiol

Byw Heb Ofn 

Yn cynnig cyngor a chymorth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

0808 80 10 800

Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y llinell gymorth

Testun:07860077333

 

Cefnogaeth i deuluoedd

https://nacoa.org.uk/ 

https://www.al-anonuk.org.uk/ 

https://adfam.org.uk/