Ers 2019, mae Ar y Dibyn wedi cynnig bron i 200 o weithdai creadigol a sgyrsiau, ledled Cymru, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i gefnogi rhai wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth.
Bwriad y prosiect yw annog creadigrwydd i brosesu ein profiadau o’r byd trwy weithdai a gweithgareddau creadigol i brocio ein dychymyg a rhyddhau syniadau. Y gobaith yw datblygu gwaith o’r galon sy’n bwerus, dewr ac uchelgeisiol, o fewn gofod diogel lle gellir mynegi ein hunain yn rhydd, heb feirniadaeth.
Hyd yma mae tua 1000 o gyfranogwyr, yn gyfuniad o rai newydd a rhai sydd yn dychwelyd, wedi datblygu gwaith ysgrifenedig, gwaith celf ac wedi gweithio ar gynhyrchu ffilm arbennig; oll yn seiliedig ar eu profiadau a’u teimladau personol nhw.
Mae diogelu llesiant ac iechyd meddwl ein cyfranogwyr a’n hartistiaid yn allweddol oherwydd natur emosiynol y prosiect, ac mae arbenigwyr iechyd proffesiynol ar gael i gefnogi ym mhob sesiwn, i roi cyngor neu i sgwrsio pan fod angen.
Ry’n ni’n hynod o falch o’r gwaith anhygoel a phwerus sydd wedi datblygu fel rhan o’r prosiect. Gyda chefnogaeth ein noddwyr a’n partneriaid, mae’n fraint i gael cyflwyno’r gwaith yma i’n cynulleidfaoedd; o ddarlleniadau byw, i gynnal sesiynau rhithiol.
Ein hartist arweiniol yw Iola Ynyr, gyda chefnogaeth artistiaid, cwnselwyr a chyfieithwyr sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Alaw Griffiths, Cai Tomos, Carwyn Jones, Iestyn Tyne, Mared Llywelyn, Mari Elen, Mirain Fflur, Lowri Gwyn - Lingo Cyf a’r Cynhyrchwyr Nia Wyn Skyrme a Gwennan Pennant Jones
Mae ein noddwyr blaenorol a chyfredol yn cynnwys Llenyddiaeth Cymru, Adra (Tai), Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta), Meddwl.org, Grymuso Gwynedd drwy Fenter Mon, Bwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Ardal Gogledd Cymru.
A diolch i'n partneriaid cefnogol hefyd sef AM, Caniad, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, ICan/Gisda, Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr, Galeri Caernarfon, Gorwel, Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau (Isgraig, Llangefni a Bron Castell, Caernarfon), Gwasanaeth Prawf Gwynedd a Mon, Maes Ni, Kaleidoscope, Pontio Bangor, Shelter Cymru, Adferiad a WAHWN.
Manylion y gweithdai sydd i ddod:
Ar hyn o bryd, rydym yn paratoi i ddechrau sesiynau Ar y Dibyn ar draws Cymru. Er mwyn nodi'ch diddordeb, cliciwch yma i lenwi'r ffurflen.
Os oes gennych ddiddordeb, mae posib trefnu sesiynau 1:1 trwy ebostio nia.skyrme@theatr.com, ac yna gallwn drefnu sgwrs anffurfiol unigol i chi gydag Iola Ynyr, artist arweiniol y prosiect.
Gweithdai Maesgeirchen
19 Medi, 12:30-14:00
26 Medi, 12:30-14:00
03 Hydref, 12:30-14:00
17 Hydref, 12:30-14:00
24 Hydref, 12:30-14:00
Lleoliad: Maes Ni, Maesgeirchen
Gweithdai Llangefni
04 Hydref, 11:00-12:30
11 Hydref, 11:00-12:30
18 Hydref, 11:00-12:30
25 Hydref, 11:00-12:30
08 Tachwedd, 11:00-12:30
Lleoliad: Canolfan Ebeneser, Ynys Môn
Gweithdai Aberystwyth
24 Hydref, 13:30-15:00
31 Hydref, 13:30-15:00
07 Tachwedd, 13:30-15:00
Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Adborth a Gwaith Creadigol
Cynhaliwyd sesiynau cyntaf y prosiect yn Galeri Caernarfon yn 2019, a bu darlleniad o’r gwaith a’i ddatblygwyd yn y sesiynau hynny. Gallwch wylio fideo o’r darlleniad yma:
Podlediad Ar y Dibyn:
Yn 2022 bu’r artistiaid Mari Elen ac Iola Ynyr yn cynnig gweithdai creadigol penodol ar gyfer merched Cymraeg eu hiaith sy’n byw gyda chamddefnyddio sylweddau yn ardal Gwynedd a Môn. Yn dilyn y sesiynau, cynhyrchiwyd podlediad arbennig sy’n trafod effaith y prosiect, a phrofiadau gwahanol ein cyfranogwyr. O ddarlleniadau o waith creadigol, i gyfle i gymeryd rhan mewn rhai o’r gweithgareddau o gysur eich cartref eich hun, mae’r podlediad yn cynnig mewnwelediad unigryw i'r prosiect.
Gwrandewch ar flas o rai o'r pennodau yma, neu cliciwch ar y botwm isod i wrando ar y pennodau llawn.
-
Rhagflas: Podlediad Ar y Dibyn
-
Pennod 1 - Dibyniaeth
-
Pennod 2 - Tywydd Mewnol
-
Pennod 3 - Carwyn
Pennod 3 - Carwyn
Cymrwch olwg ar y gwaith creadigol sydd wedi ei greu fel rhan o'r sesiynau, a darllenwch adborth y rhai sydd wedi cymeryd rhan yn y prosiect:
Artistiaid
Dyma’r artistiaid anhyogel sy’n helpu i arwain y sesiynau a chefnogi'n cyfranogwyr:
Cwnselwyr
Dyma’r cwnselwyr sy’n gweithio’n agos gyda ni yn ystod y sesiynau er mwyn helpu i warchod iechyd a lles ein cyfranogwyr:
Hyfforddi Artistiaid
Rhan bwysig o'r prosiect yw hyfforddi artistiaid newydd er mwyn iddynt adeiladu hyder i weithio gyda chyfranogwyr bregus. Dyma rai lluniau o’r sesiynau hyfforddi yng Nghaerdydd a Chaernarfon:
Lluniau gan Kristina Banholzer a Kirsten McTernan
CYMORTH YCHWANEGOL
Cyffuriau neu Alcohol
DAN 24/7
Y cam cyntaf i gael yr help sydd ei angen arnoch yw sylweddoli bod gennych broblem gyda chyffuriau neu alcohol a siarad â rhywun amdano. Os ydych chi'n poeni am eich defnydd o gyffur neu alcohol neu ddefnydd ffrind neu rywun annwyl i chi, lle da i ddechrau yw cysylltu gyda DAN 24/7 sy'n Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol i Gymru.
Mae'n llinell gymorth ddi-dal, dwyieithog a chyfrinachol sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau.
Rhif ffôn: 0808 808 2234 (Ni fydd rhif ffôn DAN 24/7 yn ymddangos ar eich anfoneb eitemedig gartref)
Tecstiwch DAN ar 81066
Ewch i dan247.org.uk
Adferiad Recovery
01792 816600
Ebost: info@adferiad.org.uk
CAMFA
Yn cynnig sesiynau cwnsela os wedi dioddef o broblemau/ yn dioddef o broblemau yn ymwneud a chamddefnydd alcohol neu/a chyffuriau.
https://www.cais.co.uk/services/camfa/
Iechyd Meddwl
C.A.L.L Helpline (Llinell wrando a Chymorth Cymunedol)
Yn cynnig gefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.
Mae gan unrhyw un sy'n bryderus am icechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind, mynediad i'r gwasanaeth. C.A.L.L, yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth cyfrinachol.
Ffon di-dal 0800 132 737
Neu tecstiwch HELP i 81066
Cartrefi diogel yng Nghymru
Shelter Cymru
Yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru.
08000 495 495
Cyngor ar drais/ cam-drin domestig a thrais rhywiol
Byw Heb Ofn
Yn cynnig cyngor a chymorth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
0808 80 10 800
Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y llinell gymorth
Testun:07860077333
Cefnogaeth i deuluoedd
Prosiectau Eraill
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Fel rhan o brosiect rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd