Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Chymuned Dawnsfa Cymru yn falch o barhau i gydweithio, gyda’r perfformiad sgratsh Kiki Cymraeg. Yn hwyrach y mis yma, bydd y sefydliadau yn cydweithio ar wythnos ymchwil a datblygu, cyn rhannu eu gwaith yn Theatr y Sherman ar 28 Mawrth 2024.
Bydd Kiki Cymraeg yn cynnwys perfformiadau gair llafar gan yr artistiaid Lauren Morais, Nina Bowers a Leo Drayton, sy’n archwilio hanes y Ddawnsfa, chwedlau Cymreig a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn cwiar yng Nghymru heddiw.
Dan gyfarwyddyd Duncan Hallis a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Gen, Steffan Donnelly, bydd Llais Cymru, Kwabena 007, yn arwain y noson a bydd perfformiadau gan aelodau Cymuned Dawnsfa Cymru, yn cynnwys Leighton Rees Milan, Supreme Milan, Opulence Milan a Hollywood 007, ochr yn ochr â DJ Raven 007.
Mae’r bartneriaeth gyffrous hon yn cyfuno diwylliant y Ddawnsfa a theatr iaith Gymraeg, ac mae’n ddilyniant o weithdy ymchwil a datblygu llwyddiannus yn 2023.
Dywedodd Leighton Rees Milan, sefydlydd Cymuned Dawnsfa Cymru:
"Community Is Key. Roedd camau cyntaf y cydweithio gyda Theatr Gen a Duncan Hallis yn foment dyngedfennol i'r aelodau WBC gymerodd rhan. Roedd yn gyfle i ni gysylltu â'n gilydd ar lefel dyfnach ac agor ein hunain at bosibiliadau newydd i'r dyfodol ar gyfer y prosiect cyffrous hwn."
Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
"Dwi methu aros i gydweithio gyda Chymuned Dawnsfa Cymru a’r anhygoel Duncan Hallis i greu noson cwiar i’w gofio. Wrth weithio gyda’r tri awdur arbennig, Lauren, Leo a Nina, byddwn yn archwilio realiti a ffantasi, dewrder ac ysblander, yr hynafol a’r cyfoes. Mae dyfeisio yn un o amrywiaeth o ffyrdd y mae Theatr Gen yn datblygu gwaith newydd ac ry’n ni’n gyffrous i daflu’r drysau ar led ar ein arbrofion gyda chyfuno gwaith Dawnsfa a theatr.”