Eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol, byddwn yn cyflwyno’r ddrama gomedi Parti Priodas gan Gruffudd Owen yng Nghaffi Maes B – ac wrth i’r ymarferion gychwyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ry’n ni’n edrych yn ôl ar wreiddiau’r ddrama.
Datblygwyd y syniad yn wreiddiol gan Gruffudd pan oedd yn aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Gen yn 2018-2019 – cyfnod prysur i Gruffudd wrth iddo hefyd ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac ymgymryd â rôl Bardd Plant Cymru yn 2019.
Ochr yn ochr â saith dramodydd arall, cafodd Gruffudd gyfleoedd datblygu, hyfforddi a mentora gyda’r cwmni ac artistiaid gwadd wrth iddo weithio ar ddrafft cynnar o’r sgript. Fel penllanw i’r cynllun, cafwyd cyfle i gynulleidfaoedd ledled Cymru fwynhau darlleniadau o ddramâu newydd y dramodwyr gyda’r daith Pwy ‘Sgrifennodd Honna?
Ers hynny, mae Gruffudd wedi bod yn gweithio dan gomisiwn gyda’r cwmni i barhau i ddatblygu’r ddrama arbennig hon. Pedair blynedd yn ddiweddarach – a chyda pandemig ar hyd y ffordd – ry’n ni mor falch o allu dod â’r ddrama gomedi digri hon i’r Maes eleni.
Dywedodd Gruffudd:
“Dwi wrth fy modd bod y prosiect wedi parhau a bod hi bellach yn cael ei llwyfannu yn y Steddfod ym Moduan. Mae’n digwydd mewn pabell yng nghae ym Mhen Llŷn, yn union fel y briodas ei hun! Dwi'n aruthrol o ddiolchgar i'r Theatr Genedlaethol am roi’r cyfle yma i mi. Mae'n ddrama gobeithio fydd yn gwneud i bobl chwerthin, i feddwl ac i ddod i 'nabod ardal y Steddfod eleni ychydig bach yn well.”
Mae Parti Priodas yn cael ei berfformio gan yr artistiaid o Lŷn, Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies, dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni Steffan Donnelly.
Dywedodd Steffan:
“Wrth ddarllen drafft cynnar o Parti Priodas pan wnes i ymuno â’r cwmni y llynedd, ro’n i’n gwybod y byddai’n gweddu’n berffaith i’r Steddfod ym Moduan. Mae Gruffudd wedi ysgrifennu sgript arbennig iawn, sy’n dod ag ysbryd cefn gwlad Pen Llŷn i’r llwyfan ac sy’n crisialu’r profiadau cyfarwydd yna o ddiflasrwydd a lletchwithrwydd diwrnodau mawr bobl eraill. Dwi wrth fy modd yn cyfarwyddo’r ddrama gomedi hon ac mae tipyn o hwyl a lot o chwerthin yn digwydd yn yr ystafell ymarfer gyda’n cast bendigedig, Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies.”
Bydd Parti Priodas ymlaen am 5pm ar 7 – 10 Awst yng Nghaffi Maes B – mynediad am ddim gyda thocyn i’r maes. Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha… bydd hi’n barti i’w gofio!